Heddlu'n cyhoeddi enw dyn o Brestatyn fu farw yng Ngwlad Thai

Dywedodd swyddogion yng Ngwlad Thai bod Keith Jones wedi marw yn ardal arfordirol Pattaya
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn yn ei 70au o Brestatyn a fu farw ar ôl cwympo o falconi gwesty yng Ngwlad Thai.
Dywedodd swyddogion fod Keith Jones wedi marw yn y fan a'r lle yn ardal arfordirol dinas Pattaya ar 6 Medi.
Cadarnhaodd Manasak Phonlayiam, o heddlu Gwlad Thai, enw Mr Jones, 75 oed, a dywedodd fod llysgenhadaeth Prydain wedi cael gwybod.
Dyw'r heddlu ddim yn credu bod yna unrhyw amgylchiadau amheus ac fe gadarnhaon fod eu hymchwiliadau'n parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.