Faint o groeso sydd i adweithyddion niwclear bach?
- Cyhoeddwyd
Dywed cydlynydd mudiad gwrth-niwclear ei fod "yn amheus" a fydd cynlluniau ar gyfer adweithyddion niwclear bach yn cael eu gwireddu mewn da bryd.
Daw ei sylwadau wrth i gwmni Rolls-Royce gadarnhau eu bod wedi cael cefnogaeth consortiwm o fuddsoddwyr preifat a Llywodraeth y DU i ddatblygu adweithyddion niwclear bach ar draws y DU.
Mae Dylan Morgan o grŵp PAWB hefyd yn codi cwestiynau am faint yr adweithyddion, gan ddweud bod adweithydd bach yr un mor gynhyrchiol a'r unedau mawr oedd yn arfer gweithredu yn Wylfa, Ynys Môn.
Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd prif weithredwr Rolls-Royce fod safle Wylfa yn "berffaith" ar gyfer datblygiad o'r fath, a nododd bod safle Trawsfynydd yng Ngwynedd hefyd yn cael ei ystyried.
Y nod yw creu 40,000 o swyddi ar draws y DU erbyn 2050.
'Dim amser i'w wastraffu'
Mae safle Wylfa wedi bod yn wag wedi i Hitachi dynnu yn ôl o'u cynlluniau nhw yn 2019 ar gyfer adeiladu Wylfa Newydd.
Y gred yw y bydd yr adweithyddion niwclear bychan yn rhatach a chyflymach i'w hadeiladu na gorsafoedd niwclear traddodiadol.
Ond dywedodd Mr Morgan: "O ystyried hanes methiant y diwydiant niwclear allwn ni ddim gwastraffu 15 i 20 mlynedd arall ar y posibilrwydd o atomfeydd niwclear.
"Mae argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd ac mae angen edrych ar yr amrywiaeth eang o ynni adnewyddol sydd ar gael, maen nhw'n rhatach, yn gyflymach i'w gweithredu."
Dywed Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ei bod hi'n credu y bydd Trawsfynydd yn debygol iawn o gael ei ystyried fel lleoliad gan fod y safle mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac felly bod hi'n "haws i Lywodraeth Prydain weithio gyda chwmni Rolls-Royce".
Ychwanegodd bod hi'n credu fod gan "adweithyddion niwclear bach rôl i'w chwarae" wrth greu ynni adnewyddadwy glân.
'Diffyg trydan'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dr Catrin Mair Davies, sy'n arbenigo ar ymchwil i bwerdai niwclear: "Ry'n ni wedi bod yn aros am y cyhoeddiad ers blynyddoedd... ond roedd eisiau bod cyllid yn barod.
"Fel mae pethau wedi mynd nawr, fel mae'r sefyllfa nwy wedyn, fel mae'r hinsawdd wedi mynd, fi'n credu fod pobl wedi ystyried bod rhaid 'neud hyn hwn nawr."
"Mae nhw yn llai o faint, mae eisiau chwech ohonynt i gyfartalu y pŵer sy'n dod o atomfa fawr ond ni'n gallu creu nhw yn y DU - ni'n gallu defnyddio cwmni fel Rolls-Royce sy'n gyfarwydd iawn â chreu atomfa achos bod nhw'n pweru submarines gydag atomfeydd.
"Felly ni'n gallu creu nhw yn ein gwlad ein hunain ac achos bo' nhw'n llai o faint mae nhw lawer yn haws.
"Dyw'r gwastraff ddim yn ddelfrydol ond mae ffordd i roi e 'nôl yn y ddaear. Gyda gwastraff, mae pethe fel wraniwm yn dod o'r ddaear a bydd yn cael ei ddodi'n ôl yn y ddaear mewn dull gwahanol.
"'Dyw e ddim yn ddelfrydol ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Does dim un ffordd o greu pŵer yn ddelfrydol ond mae'n rhaid creu rhywbeth nawr neu fe fydd diffyg trydan gyda ni."
Ychwanegodd Mr Morgan o PAWB: "Mae Dr Paul Dorfman o Brifysgol Llundain wedi ysgrifennu ddoe bod y math yma o adweithydd yn cynhyrchu yr un math o wastraff fesul cilowat awr ag adweithyddion mawr.
"Mae gyda nhw yr un problemau diogelwch ag adweithyddion mawr hefyd ac wrth gwrs y gwastraff - does yna ddim ateb parod.
"Bydd rhaid aros yn hir iawn cyn bydd yna wireddu - falle eu bod wedi cael addewid o gyllid gan gonsortiwm ar hyn o bryd ond y gwir yw i wneud hyn yn ariannol hyfyw byddai Rolls-Royce angen codi tua 16 adweithydd 450 megawat - mae hynna yn brosiect mawr iawn.
"Fe fyddan nhw yn sicr yn dod 'nôl â'i cap yn eu llaw at Lywodraeth Prydain yn gofyn am arian sylweddol i helpu gyda'r adeiladu.
"Mae angen gweithredu nawr ac mae ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni adnewyddadwy - ffyrdd sy'n rhatach, yn gyflymach i'w gweithredu a dyna'r atebion sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblemau enfawr newid hinsawdd."
Opsiynau eraill hefyd
Mae gweinidog hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, wedi dweud y gallai ynni niwclear fod yn "rhan o'r gymysgedd" o ffynonellau egni yn y dyfodol.
Yr wythnos diwethaf dywedodd fod gan niwclear y fantais o gynnig ynni cyson ond fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried opsiynau eraill oedd yn cynnig hynny, fel morlynnoedd llanw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021