'Bywyd ar stop' i fachgen ag MND sy'n sownd mewn ysbyty heb lety addas

Fe gafodd Kyle Sieniawski ddiagnosis o'r cyflwr fis Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen 14 oed o Bontypridd sy'n byw â chyflwr motor niwron (MND) yn dweud eu bod "yn ysu" am gael gadael yr ysbyty ond nad yw eu cartref yn addas.
Y gred yw mai Kyle Sieniawski yw'r person ieuengaf sy'n byw â'r cyflwr yn y DU ar ôl iddo gael diagnosis yn gynharach eleni.
Mae ei deulu wedi bod yn byw yn yr ysbyty ers bron i naw mis, a dywedon eu bod wedi cael gwybod gan y cyngor nad oes modd addasu eu tŷ ac nad oes rhywle addas ar gael iddyn nhw dros dro.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod staff yn cwrdd yn "rheolaidd iawn" i archwilio pob opsiwn posib ar gyfer Kyle, ond nad ydyn wedi dod o hyd i le addas eto.
- Cyhoeddwyd19 Awst 2024
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
Erbyn hyn, mae cyflwr Kyle wedi gwaethygu gymaint fel nad yw'n gallu symud ei freichiau na'i goesau, ac mae'n gwisgo mwgwd i'w helpu i anadlu a thiwb i'w fwydo.
"Chi'n teimlo'n ofnadwy, yn anobeithiol, achos maen nhw'n dweud wrthoch chi nad oes unrhyw beth allan nhw wneud i'w drin e, neu nad oes 'na wellhad posib," dywedodd ei fam, Melanie.
Mae hi, ynghyd â'i gŵr a'u mab 18 oed, wedi bod yn byw gyda Kyle yn Ysbyty Arch Noa, Caerdydd, ers bron i naw mis gan fod grisiau serth i gyrraedd drws eu tŷ, y cyntedd yn gul ac mae'r tŷ bach ar dop y grisiau.
"Ry'n ni'n amlwg yn desperate. Ry'n ni'n byw yn yr ysbyty. Mae'n bywydau ni i gyd ar stop," ychwanegodd Melanie.
"Mae'n eitha' brawychus achos pan ddaethon ni mewn, roedd e'n cerdded, a nawr dyw e ddim yn gallu gwneud unrhyw beth.
"Mae'n eitha' sefydlog ac mae ganddo'r holl feddyginiaeth sydd angen arno."

Mae cyflwr Kyle wedi datblygu'n gyflym iawn ers i'r llun hwn gael ei dynnu ym mis Tachwedd y llynedd
Dywedodd Melanie eu bod wedi cael gwybod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf nad yw eu tŷ teras, sydd bellach ar werth, yn gallu cael ei addasu ar gyfer Kyle.
Dywedodd y teulu eu bod wedi gofyn i'r cyngor am lety dros dro addas wrth iddyn nhw geisio gwerthu, ond maen nhw'n dweud nad oes unrhyw le ar gael.
"Mae'n anghredadwy... ry'n ni mewn limbo," ychwanegodd Melanie.
"Mae'n fater brys oherwydd bod angen cymaint o ansawdd bywyd da ag sy'n bosib ar Kyle nawr."
Dywedodd Melanie fod yr awdurdod lleol wedi sôn am y posibilrwydd o ddod o hyd i lety addas mewn ardal arall o dde Cymru.
"Byddai hynny'n eithaf anodd... a chredwch fi, mae'n ddigon anodd fel y mae," meddai.

Mae Melanie Sieniawski eisiau llety addas dro dro i'w mab
Nid yw profiad y teulu yn anghyffredin yn ôl elusen MND Association.
"Mae stori Kyle yn stori drist ac anodd iawn, iawn i'r teulu, ond yn anffodus, yn un eithaf cyffredin i bobl sy'n byw gydag MND," meddai'r uwch gynghorydd polisi yng Nghymru, Jen Mills.
"Mae tai hygyrch yn broblem am sawl rheswm, ac yn rhannol oherwydd nad oes digon o stoc o dai hygyrch ledled Cymru.
"Mae MND yn gyflwr sy'n dirywio'n gyflym iawn ac mae traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn i gael diagnosis."
'Addasu cartref yn amhosib'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn deall brys y teulu i ddatrys y sefyllfa.
"Mae'r teulu'n cael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer pob math o dŷ, ac mae uwch staff o'r Gwasanaethau Plant a Thai yn cyfarfod yn rheolaidd iawn i archwilio pob opsiwn posib i Kyle," ychwanegon.
"Yn anffodus, mae'n amhosib addasu cartref teuluol Kyle i ddiwallu ei anghenion, nid yw'r mynediad a'r cynllun yn caniatáu hynny.
"Rydym yn ddiolchgar i'r teulu am eu hymgysylltiad parhaus, ac am gytuno'n ddiweddar i ni ymestyn chwiliadau y tu allan i'r ardal leol i geisio dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt."