Dirgelwch y cacennau sy'n cael eu darganfod ar yr A470

Mae trigolion Dolwyddelan wedi bod yn darganfod y cacennau ers misoedd
- Cyhoeddwyd
Mae cacennau wedi cael eu gadael ar ochr ffordd brysur yn y gogledd ers misoedd, ond dydi hi ddim yn glir pwy sy'n gyfrifol na pham fod hyn yn digwydd.
Mae trigolion Dolwyddelan wedi dod o hyd i bob math o ddanteithion ar ochr yr A470, i gyd dal yn eu pecynnau plastig.
Fe ymddangosodd y cacennau cyntaf tua diwedd 2024 ar ochr y lôn sy'n mynd allan o'r pentref i gyfeiriad y gogledd - roedd rhai wedi dyddio, ond eraill yn dal yn iawn i'w bwyta.
Yn ôl rhai o bobl y pentref, mae'r sefyllfa yn un "od ofnadwy" gydag eraill yn poeni ei fod yn achos o daflu sbwriel o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl Paul Donnelly, sy'n byw yn lleol, fe ddechreuodd o gasglu'r cacennau wrth fynd allan i fynd â'i gŵn am dro.
"Mae hyn wedi bod yn digwydd ers ychydig fisoedd rŵan, a'r wythnos yma 'da ni gweld nifer o eitemau yn cael eu gadael yma," meddai.
"Roedd 'na dri yn gynharach yn yr wythnos, ac wedyn dau arall ddydd Gwener.
"Nes i ddim meddwl llawer o'r peth i ddechrau, ond unwaith nes i sylwi bod y pecynnau yn edrych yn debyg, mi wnes i weld bod yna batrwm
"Y peth fwyaf rhyfedd yw'r ffaith eu bod nhw dal yn y plastig, ac mae rhai yn dal yn iawn i'w bwyta o ran y dyddiad - os oes rhywun wedi eu prynu, pam fydda nhw yn eu taflu?"
'Ddim yn teimlo fel stỳnt hysbysebu'
Mae'r holl gacennau wedi cael eu creu gan yr un cwmni, sef Margaret's Country Kitchen o Warwick.
Ychwanegodd Mr Donnelly: "Dydi hyn ddim yn teimlo fel stỳnt hysbysebu i fi, oherwydd mae rhai o'r cacennau wedi dyddio neu wedi dechrau pydru pan 'da ni wedi eu darganfod.
"Ond y peth pwysicaf yw, dim ots sut y mae'r cacennau wedi cyrraedd, mae hyn dal yn achos o daflu sbwriel ac mae'n gwneud i'r ardal edrych yn flêr.
"Mae 'na grŵp o bobl leol - Doli in Bloom - sy'n mynd allan yn rheolaidd i gasglu sbwriel, ond dydi hyn ddim yn helpu o gwbl. Mae'r plastig yn niweidiol i'r amgylchedd a dydi hwnnw ddim am bydru.
"Fyswn i wrth fy modd pe bai pwy bynnag sy'n gyfrifol yn stopio."
Dywedodd Margaret's Country Kitchen eu bod nhw'n ymchwilio i'r mater, ac maen nhw wedi galw ar y rhai sy'n gyfrifol i stopio ar unwaith.