Cân i Gymru: S4C wedi torri rheolau darlledu Ofcom
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n rheoleiddio darlledu, Ofcom, wedi penderfynu bod S4C wedi torri rheolau yn dilyn trafferthion gyda'u system bleidleisio ar raglen Cân i Gymru 2024.
Yn eu hadroddiad, mae Ofcom yn nodi y bu "nam technegol gyda'r system bleidleisio" a bod "rhai gwylwyr wedi pleidleisio droeon, oherwydd na chafodd eu pleidleisiau ffôn eu cadarnhau yn ystod eu galwadau i’w cofrestru".
Yn ôl Ofcom, roedd y ffordd y cafodd y bleidlais ei chynnal yn "annheg ac yn sylweddol gamarweiniol".
Maen nhw hefyd yn nodi bod pob galwad yn rhai premiwm, ond nad oedd gwylwyr wedi cael gwybod am ffioedd mynediad o ffonau symudol.
Dywedodd S4C eu bod yn "derbyn penderfyniad Ofcom" a'u bod wedi sefydlu cynllun i ad-dalu gwylwyr am gostau pleidleisio ychwanegol, "ac wedi ymrwymo i gymryd camau i osgoi problemau tebyg i’r dyfodol".
"Rydym yn hyderus bod canlyniad y gystadleuaeth yn ddilys, ac yn edrych ymlaen at gynnal Cân i Gymru 2025 ar 28 Chwefror."
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
Yn eu hadroddiad mae Ofcom yn nodi "nad oedd y bleidlais mewn darllediad a gynhaliwyd yn Cân i Gymru wedi cael ei chynnal yn deg" a bod gwylwyr “wedi cael eu camarwain o ganlyniad i’r diffyg gwybodaeth a ddarparwyd ac wedi dioddef niwed ariannol o ganlyniad”.
Ond wrth ymateb i ymchwiliad Ofcom mae S4C yn mynnu "nad oedd y nam ar y system wedi effeithio ar ganlyniad y gystadleuaeth" ac “nad oedd sail felly i ddod i’r casgliad bod S4C wedi tanseilio ymddiriedaeth gwylwyr neu wedi achosi tramgwydd”.
Roedd deg gwyliwr wedi cysylltu ag Ofcom yn dweud eu bod wedi cael trafferthion wrth geisio pleidleisio.
Wrth ffonio, roedd gwylwyr i fod i gael neges i gadarnhau bod eu pleidlais wedi cael ei chofrestru ond mae Ofcom yn nodi "nad oedd y neges gadarnhau wedi cael ei chwarae pan oedd pleidleiswyr wedi ffonio i fwrw eu pleidlais".
Cadarnhaodd S4C fod pob galwad wedi cael ei chyfrif fel pleidleisiau dilys.
Dywedodd S4C fod y cwmni arbenigol oedd yn gyfrifol am y system tele-bleidleisio "wedi cynnal prawf o’r system cyn i’r llinellau agor” ac felly nad oedd modd gweld nac osgoi’r nam a ddigwyddodd ar y noson".
Roedd S4C o’r farn ei fod wedi cymryd “pob gofal priodol wrth ddewis rhwydwaith a threfniadau gweithredu’r system tele-bleidleisio”, gan ychwanegu, “er gwaethaf y nam ar y noson, ei fod yn fodlon bod y gystadleuaeth wedi cael ei chynnal yn deg”.
Mae Ofcom hefyd yn nodi yn eu hadroddiad y dylai S4C fod wedi nodi'n gliriach faint oedd cost galwadau.
Y neges ar y sgrin i wylwyr oedd mai "25c yw cost yr alwad o linell ddaearol. Gall y gost amrywio rhwng cyflenwyr a bydd yn sylweddol uwch o ffonau symudol."
Yn ôl Ofcom dylai S4C fod wedi egluro'n glir faint fyddai'r gost i bobl oedd yn ffonio ar eu ffonau symudol.
Dywedodd y darlledwr wrth Ofcom “nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd i wylwyr yn ddelfrydol a’i fod yn ymrwymo yn y dyfodol i sicrhau bod gwahaniaeth clir a phendant rhwng dwy elfen cost yr alwad, sef y tâl gwasanaeth a’r ffi mynediad”.
Yn sgil yr hyn ddigwyddodd eleni dywedodd S4C wrth Ofcom y byddan nhw'n newid y drefn yn y dyfodol gan "gynnig mwy nag un math o bleidleisio, cynnal prawf systemau pan fydd y pleidleisio’n fyw, gan roi gwybod i wylwyr am unrhyw fater(ion) yn ystod y darllediad a gohirio cyhoeddi’r canlyniadau nes bod unrhyw fater(ion) o’r fath wedi cael eu datrys".
'Siomedig a rhwystredig'
Yn dilyn rhaglen Cân i Gymru ym mis Mawrth, dywedodd rhai gwylwyr wrth Cymru Fyw eu bod nhw'n "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar ôl derbyn biliau ffôn uwch na'r arfer, gan nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.
Roedd rhai yn honni eu bod wedi cael biliau ffôn o dros £30 ar ôl ceisio pleidleisio sawl gwaith am eu hoff gân.
Yn ôl adroddiad Ofcom, dywedodd llefarydd ar ran S4C wrthyn nhw: "Wrth i ni ymchwilio i'r mater, fe ddaeth hi i'r amlwg fod trafferthion technegol gyda'r system bleidleisio ar y noson.
"Chafodd y rheiny wnaeth ffonio i bleidleisio ddim neges oedd wedi ei recordio o flaen llaw i gadarnhau bod eu pleidlais wedi ei chofrestru.
"Oherwydd hynny, fe wnaeth nifer o wylwyr ffonio eto i geisio cofrestru eu pleidlais ac mi wnaethon nhw dalu am bob galwad.
"Ers hynny, mae pob person wnaeth dalu am bob galwad yn gallu gwneud cais am ad-daliad."
Mae Ofcom yn nodi eu bod yn "croesawu’r camau a gymerodd S4C i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto".
'Roedd rhaid gweithredu'
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd yr Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth fod yn rhaid i'r rheoleiddiwr weithredu.
"Does 'na'r un darlledwr yn licio cael dyfarniad gan Ofcom sy'n mynd o blaid rheini sy'n cwyno.
"Mae'n dipyn o sioc mewn un ffordd, ond wrth gwrs o feddwl am gystadleuaeth Cân i Gymru a'r ymateb oedd gan y gynulleidfa ar y noson a'r cwynion ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yn rhaid i'r rheoleiddwr weithredu.
"Deg o gwynion aeth i Ofcom, fedrwch chi ddweud ar un llaw o feddwl maint y gynulleidfa nad yw hynny yn llawer iawn, ond o edrych ar lefelau cwynion yn gyffredinol ar draws Ofcom mae deg yn dipyn o rif, ac wrth gwrs mi oedd na 135 o gwynion i S4C eu hunain hefyd.
"Dyw rhaglenni S4C ddim yn derbyn dyfarniadau gan Ofcom yn aml iawn, dyw'r cwynion ddim yn mynd at y rheoleiddiwr... Ond mae S4C wedi cwympo ar eu bai a dweud 'ie mi aeth rhywbeth o'i le fan hyn'. Dyw pob darlledwr ddim yn gwneud hynny."