Dyn, 73, wedi marw mewn tân yn Abercwmboi
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abercwmboi, Rhondda Cynon Taf.
Cafodd swyddogion eu galw i Stryd John yn y pentref nos Iau.
Cafodd corff dyn 73 oed ei ddarganfod yn yr adeilad ac mae'r heddlu wedi cysylltu gyda ei deulu.
Dydy'r tân ddim yn cael ei drin fel un amheus.