Dyn, 53, wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

Traeth ger AberogwrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar draeth ger Aberogwr fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Bro Morgannwg dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar draeth ger Aberogwr am tua 10:30 fore Sul.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru fod y dyn 53 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i'r digwyddiad, gyda hofrennydd, timau achub, badau achub a'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn rhan o'r ymateb.

Pynciau cysylltiedig