'Colli babi yn dangos gwir ystyr y Nadolig'

Lisa ac Aled ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw merch Lisa ac Aled Thomas, Nansi Jên, yn ddiwrnod oed

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid. Mae'n ymdrin â marwolaethau babanod.

Mae cwpl o Ynys Môn yn dweud fod colli merch fach yn ddiwrnod oed yn gynharach eleni wedi tanlinellu gwir ystyr y Nadolig iddyn nhw.

Bu farw Nansi Jên - merch Lisa ac Aled Thomas o Gaerwen – ym mis Ionawr wedi cymhlethdodau yn ystod yr enedigaeth.

Yn ôl Lisa, mae'r Nadolig eleni yn un gwahanol iawn i'r hyn roedden nhw wedi ei ddychmygu, ond mae'n dal i fod yn arbennig am resymau gwahanol.

Dywedodd: "Erioed mae'r dolig wedi bod yn sbeshial i mi. A be' sydd wedi bod yn braf eleni ydi ein bod ni'n gallu meddwl am wir ystyr y Nadolig - a be' sy'n berffaith inni ydi amser hefo'n gilydd a'r teulu... ddim yr holl ffys hefo'r anrhegion, y trimmings a'r gwledda, y gwario mawr.

"Yr atgofion hefo'n gilydd sy'n bwysig inni."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa ac Aled Thomas yn dweud bod "dychmygu cymeriad Nansi wedi helpu"

Mae Aled yn cytuno, gan ddweud mai dyma'r unig gyfle drwy'r flwyddyn iddyn nhw dreulio cwpl o wythnosau hefo'i gilydd a'r teulu.

"Mewn un ffordd, 'da ni yn methu un peth bach hefo ni ond hefo'n gilydd da ni'n cofio amdani hi dros yr ŵyl."

'Ma' hi hefo ni'

Wrth siarad ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd Lisa: "Dydi lle mae rhywun ddim yn gwneud gwahaniaeth – mae'r galar yn mynd hefo chi.

"Mae hi'n mynd hefo ni i ble bynnag yda ni. Dydi Nansi ddim hefo ni yn cael cinio Dolig ond eto mae hi hefo ni hefyd yn dydi?"

Flwyddyn yn ôl roedd Lisa wyth mis yn feichiog – a hithau a'i gŵr Aled yn paratoi at groesawu aelod newydd o'r teulu.

Eglurodd: "Oedd pob dim 'di dod lawr grisiau, y moses basket, y pram, y goeden 'dolig.

"Mi oedd 'na dynnu lluniau a phawb yn gwaith yn deud ei bod hi'n mynd i ddod erbyn 'dolig oherwydd ei bod "hi" wedi gollwng. Oedd yr excitement yno go iawn."

"Oedd o'n gyfnod lle roedden ni'n edrych ymlaen at y dyfodol mewn ffordd," atega Aled.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled a Lisa yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gawson nhw gan y bydwragedd yn Ysbyty Gwynedd

Ychydig wythnosau wedi'r Nadolig fodd bynnag, fe drodd eu breuddwyd yn hunllef.

Oriau ar ôl cael ei geni, bu farw Nansi Jên.

Ond mae Aled a Lisa yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gawson nhw gan y bydwragedd yn Ysbyty Gwynedd aeth y filltir ychwanegol i'w cefnogi.

Mae 'na hefyd ystafell arbennig - Stafell Angel - yn Ysbyty Gwynedd ar gyfer rhieni sy'n galaru.

"Gawson ni'r amser hefo hi i roi bath iddi hi, i ddarllen stori iddi hi, mi fuon ni yn canu iddi hi," meddai Lisa.

"Mi fuon ni yn ei thrin hi fel tasa ni'n medru rhoi cymeriad iddi hi a dod i'w nabod hi, a fydd hwnnw hefo ni am byth. Fedar neb gymryd hwnnw oddi arna hi," meddai Lisa.

"Mae cael dychmygu ei chymeriad hi wedi'n helpu ni. A mae 'di gwneud i ni feddwl dyma be' fasa Nansi fach wedi 'neud neu ei ddeud – a ma' hynny wedi bod yn hwb i ni," ychwanega Aled.

'Mae amser yn helpu'

Mae Lisa ac Aled yn dweud bod siarad yn gyhoeddus am eu profiad a'u colled wedi eu helpu nhw.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y gallai hynny helpu rhieni eraill sy'n wynebu'r un galar ac unigrwydd.

"Mae siarad yn gyhoeddus wedi'n helpu ni.

"Os y gallwn ni helpu unrhyw deulu bach arall rhag teimlo mor unig, ma' 'na ola' ar ddiwedd y twnel er ei fod yn edrych yn anobeithiol ac yn bell iawn i ffwrdd weithiau.

"Ond mae amser yn helpu er mor cliche ydi hynny."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, gallwch gysylltu gyda BBC Action Line.