Of Mice and Men ddim ar restr llyfrau TGAU newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Dydy nofel enwog John Steinbeck, Of Mice and Men, ddim wedi ei gynnwys fel rhan o'r TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth newydd sydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2025.
Mae'r llyfr, sydd wedi ei osod yn America adeg Dirwasgiad Mawr y 1930au, wedi bod yn ddewis cyson i ysgolion dros ddegawdau ond mae rhai wedi codi pryderon am iaith hiliol.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, ei bod yn croesawu'r ffaith na fyddai'r llyfr ar y rhestr testunau gan ddweud ei fod wedi achosi niwed "seicolegol ac emosiynol" i rai plant du.
Mae'r TGAU newydd yn rhan o ddiwygiadau i gymwysterau yng Nghymru a dywedodd bwrdd arholi CBAC bod "ystod eang" o "destunau addas a chynhwysol" yn cael eu cynnig i athrawon a disgyblion.
Yn ôl Lewis Lloyd o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru roedd pryderon y Comisiynydd yn deillio o waith ymchwil ar hiliaeth o fewn ysgolion uwchradd a'r pryderon glywon nhw gan rhai plant du.
"Mae'r llyfr yn cynnwys lot o ddefnydd o'r N-word ac mae gan hynny y potensial o wneud plant yn anghyfforddus iawn, yn drist iawn," meddai.
"Mae lot o ysgolion wedi cymryd camau yn barod i beidio dysgu'r llyfr ond mae cael y newid yma gan CBAC yn beth positif ac yn golygu bydd ganddyn ni brofiadau cyson ar draws Cymru."
Dywedodd eu bod yn deall y rhesymau ymarferol pam fod y llyfr yn boblogaidd gan gynnwys y ffaith ei fod yn gymharol fyr a bod gan ysgolion nifer o gopïau i rannu gyda disgyblion, ond bod hawliau a lles plant yn fwy pwysig yn y pendraw.
Astudiodd Marley,16, y llyfr ddwy flynedd yn ôl.
"Roeddwn i'n actually hoffi'r stori, ond pryd glywes i'r gair, roedd o'n gwneud fi'n anghyfforddus yn y stafell dosbarth ac roedd o ddim yn helpu bod rhai o'r disgyblion eraill yn y dosbarth yn syllu arna i a chwerthin," meddai.
Mae'n croesawu'r ffaith na fydd y llyfr ar y maes llafur flwyddyn nesaf "achos bydd ddim rhaid i blant arall teimlo fel maen nhw 'di singlo mas yn y ffordd ges i fy singlo mas yn y dosbarth."
Nofel Americanaidd arall - To Kill a Mockingbird - astudiodd Bowen Cole, 18, yn yr ysgol ac mae ganddo deimladau cymysg am y ffaith na fydd honno chwaith yn cael ei hastudio ar y cwrs TGAU o flwyddyn nesaf.
Mae'n lyfr sydd hefyd wedi ei osod yn y 1930au ac sy'n feirniadol o hiliaeth y cyfnod ond mae'n cynnwys geiriau hiliol ac i Bowen, roedd hynny'n anodd fel yr unig berson du yn ei ddosbarth Saesneg.
Dywedodd ei fod yn "lyfr pwysig" ond doedd e ddim yn cytuno bod angen ailadrodd y geiriau wrth astudio'r llyfr yn y dosbarth.
"Mae pawb yn mynd i ddweud 'beth mae e'n mynd i ddweud' neu 'beth mae e'n teimlo am hyn' a ti yn gallu teimlo bod ti y case study am yr holl beth."
Mae Of Mice and Men yn boblogaidd gydag ysgolion achos ei fod yn dal dychymyg disgyblion ac yn codi themâu pwysig yn ôl Rhian Evans, athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
"Trafodaeth yw'r man cychwyn yn bendant," meddai.
"Ni wastad yn trafod y defnydd o'r iaith a pam y'n ni ddim yn defnyddio fe yn y 'stafell ddosbarth wrth bo' ni'n darllen yn uchel.
"S'dim ffordd osgoi'r ffaith bod y geiriau yn bodoli, ond y gwir yw bod geiriau yna'n mynd i wneud i rai pobl deimlo'n anghyfforddus.
"Fel menyw gwyn fi byth yn mynd i wybod sut mae'n mynd i deimlo i fod yn blentyn o liw mewn 'stafell ddosbarth lle maen nhw'n gorfod dod ar draws y geiriau yna fel rhan o'u cwrs TGAU nhw.
"Falle mae'r lleisiau yna wedi bod yn ymylol yn draddodiadol, a mae fe'n amser i fod yn fwy cynhwysol a dechrau gwrando lle ni'n gallu."
'Dysgu am themâu heriol mewn lle saff'
Fe wnaeth Harri, 17, fwynhau astudio Of Mice and Men ar gyfer TGAU.
Mae'n cydnabod bod yna themâu heriol ond mae'n dweud "yn yr ysgol roedden ni'n dysgu amdano fe mewn lle saff".
"O'n ni'n gallu adnabod bod e ddim yn iawn heddiw – odd e'n dangos beth oedd bywyd fel nôl yn yr amser," meddai Jack, 17.
Teimladau cymysg sydd gan Celyn, 16.
"Mae'n nofel sydd wedi bod mewn am gymaint a amser a mae pawb wedi astudio fe.. mae mam fi 'di astudio fe, rhieni fi... so o'dd hynna'n teimlo bach i fi wedyn bod y cwricwlwm heb symud gyda'r amser."
Mae'r TGAU newydd, sy'n uno Iaith Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, yn rhan o newidiadau eang i gymwysterau yng Nghymru o fis Medi 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd arholi CBAC: "Mae hwn yn gymhwyster newydd, ac o'r herwydd, nid testunau presennol y cymhwyster llenyddiaeth Saesneg oedd ein man cychwyn ar gyfer dewis testunau."
Fe wnaeth CBAC gyflogi ymgynghorydd gwrth-hiliaeth "i'n helpu i sicrhau bod ein cymwysterau yn adlewyrchu Cymru fodern a chynhwysol" yn ogystal ag ymgynghori gydag ystod eang o sefydliadau, ychwanegodd y llefarydd.
Dywedodd eu bod wedi dewis "ystod eang o destunau" a rheini'n "archwilio themâu a fydd yn atseinio gyda dysgwyr".
Mae Of Mice and Men yn destun dewisol ar gwrs TGAU Llenyddiaeth Saesneg yng Ngogledd Iwerddon ond yn Lloegr fe wnaeth bwrdd arholi mawr ollwng y llyfr ddegawd yn ôl yn sgil pwyslais newydd ar awduron Prydeinig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023