Newid statws iaith ysgol yn sgil codi tai 'yn bryder'

Ysgol Gynradd Dolau
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr eisiau i Ysgol Gynradd Dolau barhau'n ysgol ddwyieithog wedi i ysgol Gymraeg gael ei chodi yn yr ardal, yn lle ei throi'n ysgol Saesneg yn unig

  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi codi am gynlluniau newydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ysgolion cynradd yn y sir.

Fel rhan o ddatblygiad tai mawr ar gyrion pentref Llanharan, bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei chreu.

Ond bydd statws iaith ysgol gyfagos yn newid o fod yn ddwyieithog i fod yn Saesneg yn unig - penderfyniad, meddai mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, fydd yn "llesteirio" twf y Gymraeg.

Yn ôl y cyngor, y disgwyl yw y bydd y cynigion yn cynyddu'r nifer sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd datblygiad tai mawr yn cael ei godi ar y safle yma ar gyrion Llanharan gan olygu angen i gynyddu'r ddarpariaeth addysg i blant lleol

Bydd 1,850 o dai yn cael eu hadeiladu fel rhan o gynllun tai Llanilid, fydd hefyd yn cynnwys adnoddau cymunedol ac ysgol gynradd Gymraeg newydd.

Bydd lle i 480 o ddisgyblion yno, yn ogystal â 60 o rai meithrin.

Ond bydd Ysgol Gynradd Dolau sydd gerllaw yn newid o fod yn ddwyieithog i ysgol Saesneg yn unig gyda lle i 488 o ddisgyblion a 63 o blant oed meithrin.

Ar hyn o bryd mae tua 300 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg a thua 150 drwy'r Gymraeg yno.

Y bwriad ydi dod â'r newidiadau i rym erbyn mis Medi 2027.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr Rhieni Dros Addysg Gymraeg, eu bod nhw wedi synnu "bod y ddarpariaeth Saesneg yn tyfu"

Wrth gyfeirio at yr ysgol gynradd Gymraeg newydd, dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ei bod "wrth gwrs" yn croesawu hynny.

"Yr hyn sydd wedi dod fel sioc ac, o bosib, siom i ni yw bod y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn tyfu ac yn mynd i fod yn fwy na'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal."

Mae'r mudiad yn galw ar y cyngor i "ailystyried" cynyddu'r ddarpariaeth Saesneg a sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg yn well yn yr ardal.

"Beth yw hyn i bob pwrpas i ni yw penderfyniad gwleidyddol i gadw'r ddysgl yn wastad yn hytrach na edrych ar y rhesymau gwirioneddol dros ddatblygu addysg Gymraeg."

Ychwanegodd nad yw'r cynlluniau yn cyd-fynd â'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddweud mai'r effaith fyddai "llesteirio twf os rhywbeth".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, bod newid statws Ysgol Gynradd Dolau yn "gam yn ôl"

Dywedodd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, bod cael ysgol gynradd Gymraeg newydd yn gam ymlaen, ond bod newid statws Ysgol Gynradd Dolau yn "gam yn ôl".

"Mae Ysgol Dolau yn ysgol dda a llwyddiannus," meddai.

"Beth sydd yn mynd i ddigwydd, wrth gwrs, yw mae 150 o lefydd Cymraeg yn yr ysgol yn mynd i gael eu llenwi gyntaf a mae yna risg bod 'na genhedlaeth goll yn mynd i fod.

"Beth sy'n dueddol o ddigwydd yw mae teuluoedd yn sticio gyda'r un ysgol ac felly mae pawb sydd yn Ysgol Dolau yn barod yn mynd i aros yna.

"Felly dyna'r cons'yrn, a'r cwestiwn yw: oes rhaid newid Dolau o gwbl?"

Mwy i dderbyn addysg Gymraeg, medd y cyngor

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dadlau y bydd addysg yn y ddwy iaith yn tyfu ac yn cael "effaith gadarnhaol" ar ddisgyblion o bob oed.

"Yn bwysig iawn, mae'r buddsoddiad sydd wedi'i neilltuo i adeiladu ysgol Gymraeg newydd sbon yn diogelu nifer y lleoedd penodedig sydd ar gael i ddisgyblion mewn addysg Gymraeg yn yr ardal," meddai llefarydd.

"Mae disgwyl i'r cynigion arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg o ganlyniad i hyn.

"Mae hyn yn cefnogi targedau cenedlaethol 'Cymraeg 2050', ynghyd â'r targedau a'r deilliannau sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Cyngor ei hun."

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn agor fis Medi.

Pynciau cysylltiedig