'Eisteddfod Pontypridd yn barêd arwynebol heb addysg Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y gallai'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd y flwyddyn nesaf fod yn "barêd arwynebol" os nad yw Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud mwy dros addysg Gymraeg.
Fe gafodd Lowri Real o Gilfynydd ei siomi'n fawr gan benderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton - penderfyniad mae hi'n dweud fydd yn tynnu'r iaith allan o'r gymuned honno.
"Dwi'n poeni bydd yr Eisteddfod yn barêd arwynebol achos dwi 'di siomi gyda rhai o'r pethau mae Rhondda Cynon Taf wedi 'neud dros y blynyddoedd," meddai.
"I fi mae'r Eisteddfod yn dod â balchder a dwi'n edrych 'mlaen, ond mae hefyd yn dod â thristwch oherwydd yn y flwyddyn mae'r Eisteddfod yn dod mae'n hysgol Gymraeg lleol ni yn cau - yr ysgol Gymraeg gynta' ym Mhontypridd - a dwi'n meddwl y galle Rhondda Cynon Taf fod wedi edrych ar effaith hynny."
Mae'r cyngor yn dweud bod tua £150m wedi ei wario ar ysgolion Cymraeg yr ardal, a bod cludiant ar gael i rieni anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.
Ers y penderfyniad i gau'r ysgol mae Lowri wedi sefydlu Cylch Meithrin a grŵp Ti a Fi yng Nghilfynydd mewn ymgais i hybu'r iaith yn lleol.
Bydd ysgol Saesneg newydd i blant rhwng 3 ac 16 oed yn agor gerllaw fis Medi nesaf.
Er y bydd yna ysgol Gymraeg newydd yn ardal Rhydfelen gyda lle i fwy o blant, mae Lowri'n poeni mai symud yr iaith nid cynyddu nifer y siaradwyr fydd y canlyniad.
"Yn arwynebol bydd mwy o siaradwyr, mwy tuag at dargedau'r iaith - ond fel cymuned ry'n ni yng Nghilfynydd yn colli'r iaith, mae'n symud allan o'r ardal," meddai.
"Ni'n siarad gyda rhieni ac maen nhw'n dweud bod nhw wedi ystyried y Gymraeg ond fod yna ormod o rwystrau - byddai angen mynd ar fws i ochr arall Pontypridd.
"Does dim cyfartaledd. Ni'n gweld y dirywiad yn barod."
'Dy'n nhw methu clodfori eu hunain'
Un arall sy'n dweud bod angen i'r cyngor wneud mwy i ddangos ymrwymiad i addysg Gymraeg yw'r artist a'r darlledwr o Dreorci, Sion Tomos Owen.
"Maen nhw'n clodfori eu hunain am gael yr Eisteddfod i ddod yma, ond maen nhw angen cic eitha' caled i weld beth allen nhw 'neud a beth mae ardaloedd eraill yn 'neud i'r iaith," meddai.
"Dy'n nhw methu clodfori eu hunain am un peth a gwrthod rhoi addysg a llefydd i'r Gymraeg ffynnu ar y llaw arall."
Gwadu'r cyhuddiad mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan.
"Ry'n ni'n gwario rhyw £150m ar ysgolion Cymraeg ar draws y sir ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny mewn modd strategol o ran talgylchoedd," dywedodd.
"Os nad yw plant am deithio i Rydfelen yna mae 'na lefydd yn ysgol Abercynon sydd ond dwy filltir o Gilfynydd.
"Dros ardal o chwe neu saith milltir mae gyda chi tair neu bedair ysgol Gymraeg, a dylai neb deimlo na allan nhw deithio achos mae cludiant ar gael.
"Bydden i'n darbwyllo rhieni i barhau gydag addysg Gymraeg," meddai.
Mae'n gwadu nad ydyn nhw wedi'u hymrwymo i ddatblygu'r iaith yn lleol.
"Mae'r ffeithiau'n sefyll drostyn nhw eu hunain. Ry'n ni'n ariannu Parti Ponty, Cylchoedd Meithrin, ry'n ni wedi gwario £150m ar ysgolion Cymraeg.
"Mae gyda ni gyrsiau i ddysgwyr ac ry'n ni'n cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
"Yn y bum i 10 mlynedd ddiwetha' mae 'na gynnydd cyson wedi bod yn ein cefnogaeth i'r iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023