Cyhuddo swyddog heddlu o greu delweddau anweddus o blant

- Cyhoeddwyd
Mae swyddog heddlu yn y de wedi'i gyhuddo o dri achos o greu delweddau anweddus o blant.
Mae'r swyddog, a oedd yn gweithio i Heddlu Gwent, hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o fynediad heb awdurdod at raglen neu ddata.
Plediodd y swyddog yn ddieuog i bob un o'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 18 Awst.