Dynes wedi bwriadu lladd ei hun pan neidiodd o awyren - cwest

Bu farw Jade Damarell, o Gaerffili, ar 27 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi canfod bod dynes o dde Cymru wedi bwriadu lladd ei hun pan blymiodd o awyren, ddiwrnod ar ôl i'w pherthynas ddod i ben.
Bu farw Jade Damarell, 32 oed ac o Gaerffili, ar ôl glanio ar dir fferm ger Fleming Field yn Shotton Colliery, Sir Durham ar 27 Ebrill.
Clywodd cwest ei bod hi'n awyrblymiwr "profiadol iawn" ond nad oedd hi wedi gwneud unrhyw ymgais i ddefnyddio ei phrif barasiwt na'i pharasiwt wrth gefn.
Clywodd y cwest fod Ms Damarell yn angerddol am awyrblymio ac wedi cwblhau mwy na 500 o neidiau.
Roedd y tywydd yn dda ar ddiwrnod ei marwolaeth.
Ni wnaeth Ms Damarell ddefnyddio camera ar ei helmed - yr oedd hi wedi defnyddio yn y gorffennol - ac roedd ei holl offer yn gweithio'n iawn.
Clywodd y cwest ddatganiad gan ei chyn-bartner a ddywedodd eu bod "wedi dod â'u perthynas i ben y noson cynt".
Y diwrnod cyn iddi farw roedd y rheolwr marchnata wedi cwblhau chwe naid yn ddiogel, clywodd y gwrandawiad.
Roedd profion tocsicoleg yn negyddol ar gyfer alcohol a chyffuriau.
Daeth y crwner cynorthwyol Dr Leslie Hamilton i'r casgliad ei bod "yn ôl pob tebyg" wedi bwriadu lladd ei hun, ac fe gofnododd gasgliad o hunanladdiad.
Ar ôl y cwest, dywedodd ei theulu: "Roedd ein merch annwyl Jade yn berson disglair, prydferth, dewr ac yn wirioneddol arbennig.
"Yn ysbryd anturus a rhydd, roedd hi'n byw gydag egni, angerdd a chariad aruthrol a chyffyrddodd â bywydau dirifedi gyda'i chynhesrwydd a'i charedigrwydd."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.