Munud o dawelwch yn yr Eisteddfod i gofio 80 mlynedd ers Hiroshima

HiroshimaFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau o'r awyr o Hiroshima, Japan, yn fuan wedi gollwng bom atomig y "Little Boy"

  • Cyhoeddwyd

Roedd yna funud o dawelwch yn y Pafiliwn ac wrth Gerrig yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Mercher i gofio 80 mlynedd ers bom Hiroshima.

Mae 'Hibakusha' yn un o'r prosiectau celf sy'n cael eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn Cymru a Japan – dathliad blwyddyn gyfan o'r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.

Mae'r prosiect wedi'i ysbrydoli gan ymweliadau Cian Ciarán o'r Super Furry Animals â Japan yn ogystal â sgyrsiau gyda goroeswyr Fukushima a'u teuluoedd.

Ar 6 Awst 1945, cafodd bom atomig ei ollwng gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima, gan ladd degau o filoedd o bobl ar unwaith ac achosi dinistr aruthrol, gan nodi trobwynt hanesyddol yn yr Ail Ryfel Byd ac yn natblygiad arfau niwclear.

Cian Ciarán ar y Maes fore Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Cian Ciarán ar y Maes fore Mercher

Wedi'r cyfnod o dawelwch am hanner dydd, mae'r cyfansoddwr Cian Ciarán yn cyflwyno gosodiad chwe awr.

Mae'n gwahodd eisteddfodwyr i fyfyrio a meddwl am y miloedd o fywydau gafodd eu colli o ganlyniad i'r bom.

Mae'r gosodiad yn adlewyrchu taith awyren yr Enola Gay o'i hesgyniad hyd nes rhyddhau'r bom atomig 'Little Boy'.

Disgrifiad,

'Mae ganddon ni waith i 'neud i gael heddwch'

Mae Cian Ciarán yn gobeithio y bydd y profiad yn annog eraill i ystyried effeithiau Hiroshima ac yn ysbrydoli adeiladu heddwch, gan adleisio galwad ac ymbiliad seremonïol craidd yr Eisteddfod, 'A Oes Heddwch?'.

"Rwy'n credu, o ystyried yr hinsawdd wleidyddol jeopolitig bresennol, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i ni fyfyrio, ac mae'r darn hwn yn amserol i'n hatgoffa o'r effeithiau trychinebus y gall rhyfel a gwrthdaro eu cael ar fywydau pobl," meddai Cian.

Catharine Huws Nagashima
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd Catharine Huws Nagashima o Japan ran mewn digwyddiad yn y Babell Heddwch ddydd Mercher ar ddiwrnod cofio Hiroshima

Mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher fe fu Cian, Jill Evans - is-gadeirydd Academi Heddwch Cymru - a Catharine Huws Nagashima o Japan yn nodi pwysigrwydd cofio i adeiladu heddwch.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Catharine Huws Nagashima, sy'n byw yn Zushi ers degau o flynyddoedd: "Thema ein sgwrs yn y Babell Heddwch ddydd Mercher fydd cofio, cofio, cofio - ond i fi yr hyn sy'n bwysig yw empathi.

"Mae 'na rai sydd methu anghofio - ac mae hynna'n waeth na dim."

Mererid
Disgrifiad o’r llun,

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth yr Archdderwydd Mererid ymbil am heddwch a ddydd Mawrth roedd yn rhan o sesiwn farddol a fu'n ymateb i Hiroshima

Ddiwrnodau wedi i'r bomiau atomig ffrwydro yn Hiroshima a Nagasaki yn 1945 daeth y cystadlu i stop yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog wrth i ysgrifennydd yr eisteddfod, J T Edwards, gyhoeddi o'r llwyfan fod Japan wedi ildio a bod y rhyfel ar ben.

Dyma'r unig bryd, mae'n debyg, i gystadleuaeth gydadrodd gychwyn yn ystod y cyfnod o ryfel a gorffen gyda heddwch yn y byd.

"Bydd Hibakusha yn cynnig cyfle i ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol gofio effaith erchyll defnyddio arfau niwclear ochr yn ochr â'r gymuned fyd-eang, gan gryfhau penderfyniad cyffredin i weithio tuag at ddyfodol heddychlon a ffyniannus i bawb," meddai Jill Evans.

"Mae blwyddyn Cymru a Japan yn gyfle i'n dwy genedl rannu adlewyrchiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd trwy gelfyddyd a diwylliant," meddai Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Mae Hibakusha yn osodiad celfyddyd sain dwys sy'n gwahodd ymwelwyr â'r Eisteddfod i fyfyrio ar effaith erchyll bom niwclear Hiroshima yng nghysgod heddychlon cylch symbolaidd y cerrig."