Cymro'n cwblhau taith 8,000 milltir ar hyd mynyddoedd yr Andes

- Cyhoeddwyd
Er iddo syrthio'n anymwybodol, cael ei frathu gan gi a dioddef lladrad gan gang oedd yn defnyddio machete, mae dyn o Abertawe wedi llwyddo cerdded mwy na 8,000 milltir ar draws mynyddoedd yr Andes.
Roedd Ollie Treviso, 29 oed, wedi croesi drwy saith gwlad, o bwynt mwyaf deheuol Ariannin i Fôr y Caribî yn Venezuela.
"Wna i byth anghofio'r teimlad hwnnw ar y diwrnod cyntaf yn meddwl, beth wyt ti wedi'i wneud?" meddai Mr Treviso.
"Roedd gen i gyfandir cyfan o'm blaen, prin oedd gen i unrhyw arian, doeddwn i ddim yn gallu siarad yr iaith. Roedd y cyfan yn teimlo mor frawychus i mi."

Cafodd ei ysbrydoli i wneud yr her wedi "cyfnod tywyll" o ganlyniad i golli aelod o'i deulu.
Ei obaith drwy gwblhau ei daith oedd codi arian ac ymwybyddiaeth ar ran yr elusen iechyd meddwl, Mind.
Er iddo dreulio tri mis yn paratoi, amhosib oedd bod yn gwbl barod am yr hyn oedd o'i flaen.
O "wyntoedd gelyniaethus" a thymheredd "chwerw o oer" yn ne'r cyfandir, a hinsawdd drofannol yn y gogledd, dywedodd fod yn rhaid iddo "ddysgu'r ffordd galed".
Cafodd ei daith ei holrhain gan ddefnyddio ffôn lloeren a anfonodd signal bob 30 munud fel bod pobl yn gwybod ble'r oedd o.
"Dyn arferol ydw i o ystâd yn Abertawe ac roeddwn i eisiau dangos y gall pobl normal wneud yr anturiaethau enfawr hyn," meddai Mr Treviso.

Dysgodd Mr Treviso Sbaeneg ar hyd y ffordd ac enillodd yr hyder i roi sgyrsiau mewn ychydig o ysgolion a phrifysgolion tua diwedd ei daith
Tua 100 o ddiwrnodau i mewn i'w daith, wynebodd y sefyllfa gyntaf oedd wedi peryglu ei fywyd.
Tra ym Mhatagonia, syrthiodd i geunant mewn rhan anghysbell o'r wlad.
"Collais fy nghydbwysedd, llithro wedyn i geunant, ac roeddwn i'n hongian uwchben craig. Llwyddais i wthio fy ffon gerdded i mewn i ran o'r ceunant.
"Wrth i mi fynd i dynnu fy hun i fyny, nes i lithro, taro'r llawr a cholli ymwybyddiaeth. Dydw i ddim yn gwybod am ba hyd."
Llwyddodd i ddianc gyda throed wedi torri a "gên wedi torri" a cherddodd fwy na 24 awr i'r pentref agosaf.
"Mae cymaint o heriau a dyddiau tywyll wedi bod.
"Cefais newyddion o gartref fod gan fy mam-gu, sydd o bell ffordd y person pwysicaf yn fy mywyd, ganser, a wnaeth fy nharo, yn emosiynol."
Caredigrwydd eraill yn gynhaliaeth
Yng Ngholombia, profodd sawl rhwystr a sefyllfaoedd peryglus hefyd.
Ar ôl gwella o glefyd dengue, dolen allanol, cafodd ei frathu gan gi a bu'n rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty.
Yn fuan wedi hynny daeth tri dyn yn cario machete a chyllyll a dwyn rhywfaint o'i arian a'i ffôn symudol.
Ond dywedodd Mr Treviso nad oedd rhoi'r gorau i'w daith gerdded "byth yn opsiwn", ac am bob peth drwg a ddigwyddodd roedd hyd yn oed mwy o garedigrwydd.
"Ar adegau roedd gen i 30 neu 40 o bobl [lleol] yn cerdded gyda fi mewn diwrnod oherwydd eu bod nhw eisiau rhannu.
"Ar un adeg, dros gyfnod o 55 noson, cysgais mewn 40 o dai. Mi oedd pobl wedi cynnig gwely 40 o weithiau. Mae'n anhygoel."

Roedd dringo copa uchaf Ecuador, Chimborazo, yn un o'r rhannau "mwyaf heriol yn gorfforol" o'r daith gerdded, meddai Mr Treviso
Wrth iddo agosáu at ddiwedd ei daith, roedd croesi'r ffin olaf o Colombia i Venezuela yn rhywbeth yr oedd wedi bod yn ei ofni ers peth amser.
"Rwyf wedi cael cannoedd o negeseuon gan bobl yn dweud wrthyf ei fod yn hunanladdiad.
"O'n i'n eistedd yn y caffi yma yn Colombia ac yn gweld y pennawd hwn yn dweud mai dyma'r lle mwyaf peryglus yn y byd ac roeddwn i'n teimlo'n sâl."
Parhaodd ar hyd y ffordd tuag at y ffin, pan stopiodd car a chynigiodd dyn helpu.
"Dyma'r lle a roddodd y cur pen mwyaf i mi.
"Yna dyma fi'n rhannu pitsa gyda'r teulu hwn yn un o'r lleoedd mwyaf peryglus yn y byd.
"O'n i'n meddwl i fy hun bod yr holl beth yn gwbl anghredadwy.
"Mae'n dangos bod cymaint o leoedd peryglus yn y byd hwn gyda llawer o bethau drwg yn digwydd, ond mae cymaint o bobl dda, cymaint o bobl wych, yng nghanol yr anhrefn hwn sydd eisiau eich helpu chi allan," meddai.
'Dyma oedd fy mhwrpas'
Ymunodd tad a brawd Mr Treviso yn ystod rhan olaf y daith i arfordir y Caribî.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, mae Mr Treviso yn bwriadu ceisio cael cydanbyddiaeth swyddogol o'i daith gerdded yn yr Andes fel y pellaf y mae unrhyw un wedi'i gerdded ar draws cadwyn fynyddoedd hiraf y byd.
Mae hefyd yn gobeithio parhau i wneud gwaith yn ei gymuned leol gydag elusen iechyd meddwl yn penderfynu ar ei antur nesaf.
"Gall bywyd fod mor fyr. Rydw i wedi colli ychydig o ffrindiau oherwydd iechyd meddwl ac rwy'n gwybod ei fod yn broblem gynyddol yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig ymhlith dynion.
"Roeddwn i'n teimlo mai dyma oedd fy mhwrpas."