Gwrthod cais i droi tafarn yn llety gwyliau am y trydydd tro

Y Vaynol Arms ym Mhentir
Disgrifiad o’r llun,

Mae trydydd ymgais i droi tafarn yn llety gwyliau wedi ei wrthod gan gynghorwyr yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae trydydd ymgais i droi tafarn o'r 18fed ganrif yn llety gwyliau wedi ei wrthod gan gynghorwyr yng Ngwynedd.

Mae'r Vaynol Arms ym Mhentir, ger Bangor, wedi cau ers Nadolig 2021.

Gyda bwriad o rannu'r llawr gwaelod yn ddwy uned wyliau, hwn oedd trydydd ymgais y perchennog Duncan Gilroy i droi'r dafarn at ddiben gwyliau.

Ond yn ôl swyddogion cyngor, gan argymell y dylid gwrthod y cais, nid oedd Mr Gilroy wedi darparu digon o dystiolaeth i brofi nad oedd yn ymarferol fel busnes tafarn.

Ffynhonnell y llun, Grŵp Gweithredu Pentref Pentir
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth roedd tua 70 o bobl mewn rali ym Mhentir yn galw am werthu Tafarn y Vaynol er budd y gymuned

Roedd y cais wedi ei gyfeirio at y pwyllgor ar gais y Cynghorydd Dafydd Meurig yn sgil pryder y byddai'n arwain at "golled o adnodd cymunedol pwysig, ac yn creu gormodedd o ddarpariaeth llety gwyliau".

Roedd Cyngor Cymuned Pentir hefyd wedi nodi eu gwrthwynebiad i'r cais.

Ers peth amser mae Grŵp Gweithredu Pentref Pentir wedi dweud yr hoffen nhw brynu'r dafarn a'i rhedeg fel menter gymunedol.

Yn ôl Mr Gilroy roedd y Vaynol Arms wedi cael ei chynnig i'r gymuned leol ar brydles "sylweddol gwell" na phrydles y cyn-berchennog, Robinsons, gyda'u tenant.

Ond nid oes cytundeb hyd yma.

Wrth siarad yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd brynhawn Llun, dywedodd Cefin Roberts o Grŵp Gweithredu Pentref Pentir mai'r eglwys oedd yr unig fan cyhoeddus oedd ar ôl yn y pentref erbyn hyn.

Ychwanegodd tra bod cau'r Vaynol Arms yn "dolc" i'r gymuned, byddai troi'r dafarn yn "Air BnB yn ergyd farwol".

Fe bleidleisiodd y pwyllgor yn unfrydol i wrthod y cais.

Pynciau cysylltiedig