34 o ddefaid wedi marw ar ôl bwyta mes ger y Bala

Defaid wedi marw
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 34 o ddefaid wedi iddyn nhw fwyta'r mes

  • Cyhoeddwyd

Mae ffarmwr o'r Bala yn galw ar ffermwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth, ar ôl iddo golli 34 o ddefaid, wedi iddyn nhw gael eu gwenwyno gan fes.

Dywedodd Geraint Davies, sy'n ffermio Fedw Arian Uchaf rhyw filltir o'r Bala, bod y golled yn un anferth i fusnes y ffarm - dros £5,000 i gyd.

Mae 'na gnwd mawr o fes eleni a llawer o goed derw ar dir y Fedw Arian.

Y gred ydi bod y defaid a fu farw wedi bwyta llawer o'r mes ac wedyn bod hynny wedi eu gwenwyno - gan achosi i'w harenau fethu.

Mae Geraint Davies eisoes wedi dechrau symud ei ddefaid i dir uwch lle nad oes yna goed derw. Mae'r defaid i gyd wedi marw dros y dyddiau diwethaf 'ma.

Geraint Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Davies fod y golled yn un anferth i'r fferm

Dywedodd Geraint Davies ei fod wedi mynd trwy ei ddefaid ddydd Iau diwethaf, "i wneud yn siŵr bod nhw gyd yn iawn ac ati".

"Wrth fynd i'r cae cyntaf, roedd 'na ddwy ddafad wedi marw yn fanno ac fel aethom ni trwy weddill y caeau roeddem ni'n pigo defaid wedi marw ac ati.

"Roedd o'n 'chydig bach o benbleth i ddechre, ond roedd y geiniog yn disgyn yn sydyn iawn - doedden nhw ddim yn rhy bell o goed derw ac mi ddaru ni yrru un ddafad i ffwrdd i Aberystwyth (am bost-mortem) i gael sbio mewn i be' oedd o."

Esboniodd Geraint fod y canlyniadau "i gyd wedi dod yn ôl yn dangos mai gwenwyn oddi wrth y mes oedd o".

"De' ni wedi colli hyd ar 34 o ddefaid hyd yma - sydd yn brifo braidd," meddai Geraint.

Arwydd: FEDWARIAN UCHAF
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint yn ffermio yn Fedw Arian Uchaf, ger y Bala

Dywedodd Geraint eu bod wedi colli gwerth cyffredinol o tua £150 y ddafad a bod "trade da ar y defaid eleni".

"Ma' hwnne'n arian sydd ddim yn gwlwm i'r ffarm ddim mwy," meddai.

"Mae'n mynd i gostio i gael gwaredu'r defaid hefyd, so mae o'n golled anferth i ni fel busnes i ddweud y gwir."

Esboniodd fod y mes yn "mynd i mewn i'w bolie nhw ac mae o'n fermentio i mewn yn fanne ac ati".

"Mae o'n arwain at fethiant o fewn eu harenau nhw yn diwedd, felly gwenwyno yn fanno ac mae'r arenau yn methu a gwella yn iawn i allu treulio'r lefelau o toxicity sydd y tu mewn iddyn nhw," ychwanegodd Geraint.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig