Disgybl, 12, fu farw wedi'i ganfod ar lawr ei ystafell wely - cwest
- Cyhoeddwyd
Cafodd bachgen ysgol 12 oed "poblogaidd a hoffus" ei ganfod yn farw ar lawr ei ystafell wely gan aelod o'r teulu, mae cwest wedi clywed.
Mae cwest i farwolaeth Marc Aguilar - a oedd yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Bro Edern, Caerdydd - wedi ei agor a'i ohirio.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'w gartref yn Llaneirwg toc wedi 16:00 ddydd Sadwrn, 14 Medi, ond bu farw'r bachgen.
Clywodd y cwest yn Llys Crwner Canol De Cymru fore Mawrth fod y bachgen wedi ei ganfod yn gorwedd ar lawr ei ystafell wely gan aelod o'r teulu.
Mae adroddiad cychwynnol y patholegydd yn nodi fod angen ymchwilio ymhellach cyn cadarnhau achos y farwolaeth.
- Cyhoeddwyd16 Medi
Dywedodd y crwner, Patricia Morgan fod y farwolaeth yn annaturiol a bod angen cynnal cwest.
Ychwanegodd fod yr ymchwiliadau i'r digwyddiad ar waith, ac o ganlyniad bydd rhaid gohirio'r cwest.
Fe wnaeth Ms Morgan hefyd fynegi ei chydymdeimlad â theulu Marc Aguilar yn ystod y cyfnod heriol yma.
'Disgybl poblogaidd a hoffus'
Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad wedi'r farwolaeth eu bod yn "ymchwilio i farwolaeth sydyn a heb esboniad bachgen 12 oed yn Llaneirwg".
Ychwanegodd y llu nad oedd "unrhyw amgylchiadau amheus".
Dywedodd Ysgol Bro Edern mewn llythyr at rieni fod "Marc Aguilar yn ddisgybl poblogaidd a hoffus a oedd yn serennu ym myd y campau".
"Roedd ganddo lawer o ffrindiau ym Mro Edern a bydd colled fawr ar ei ôl."