Caerdydd: Tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol

Safle'r digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger tafarn Gassy's yn Y Waun Ddyfal

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn ymwneud â chyllell yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod yr ymosodiad wedi digwydd ar Heol Salisbury, Y Waun Ddyfal (Cathays) tua 23:30 nos Fawrth.

Mae un dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r ardal wedi'i diogelu gan yr heddlu, sy'n annog unrhyw un â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig