'Cyfnod anodd' i ddod yn sgil cau ffordd ger Brynaman

Gwaith ffordd ar yr A4069Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Awdurdod Glo yn gobeithio y bydd modd agor y ffordd ymhen tair wythnos

  • Cyhoeddwyd

Wedi i'r brif ffordd rhwng Brynaman Uchaf ac Isaf gael ei chau, mae pobl leol yn dweud eu bod nhw'n wynebu "cyfnod anodd".

Bydd rhan o'r A4069 sy'n uno'r ddau bentref ynghau am ryw dair wythnos wedi i hen dwnnel glofaol ddymchwel.

Mae ffordd gefn i gael, ond ers i'r gwaith ffordd ddechrau ddydd Mawrth, mae adroddiadau o wrthdrawiadau a cherbydau yn mynd yn sownd.

Mae hynny wedi arwain at rai teithwyr yn gorfod gyrru bron i 20 milltir o amgylch y cwm er mwyn teithio rhwng Brynaman Uchaf a Brynaman Isaf.

Mewn datganiad, dywedodd yr Awdurdod Glo - sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio - mai "diogelwch y cyhoedd yw eu blaenoriaeth" a "bod yn rhaid cau'r ffordd er mwyn cwblhau'r gwaith".

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aranwen Thomas yn poeni y bydd teithiau hirach i'r ysgol yn amharu ar addysg ei mab

Mae pont dros dro wedi ei chodi, fydd yn galluogi cerbydau'r gwasanaethau brys i groesi pe bai angen ac mae'r pafin hefyd ar agor.

Dywedodd sawl un wrth Newyddion S4C bod cau'r ffordd yn achosi pen tost iddyn nhw.

Wedi'r gwyliau Pasg, bydd mab 16 oed Aranwen Thomas, Cai, yn dychwelyd i Ysgol Dyffryn Aman, ond oherwydd y gwaith bydd ei fws ysgol nawr yn gadael am 07:00 - a'r daith i Rydaman yn cymryd awr a hanner bob ffordd.

Mae ei fam yn poeni am yr effaith bosib ar ei addysg: "Mae'r disgyblion yma yn mynd i fod dan anfantais yn dod 'nôl yn hwyrach yn y nos, a jest y siwrne o dair awr ar y bws yn ddyddiol yn ystod cyfnod pwysig.

"Mae'n mynd i gael effaith ar y disgyblion o ran amser iddyn nhw baratoi ac adolygu at yr arholiadau sydd wir ar y gorwel."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith atgyweirio eisoes wedi cael effaith ar fusnesau lleol, yn ôl Scott Davies

Dywedodd Scott Davies, sydd yn gweithio yng nghanolfan y Mynydd Du, fod effaith ar fusnesau Brynaman Uchaf hefyd.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn a dim ond dydd dau yw e," meddai.

"Dyw busnesau ddim yn cael deliveries - ni 'di cael dau delivery ddim yn dod."

Gwaith 'cwbl angenrheidiol'

Yn ôl y cynghorydd sir dros ward Cwarter Bach, Glynog Davies, mae'r gwaith "yn dipyn o anghyfleustra" ond yn "gwbl angenrheidiol".

Mae'r Awdurdod Glo wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac maen nhw'n gobeithio y bydd modd ailagor y ffordd ymhen tair wythnos.

Pynciau cysylltiedig