Cyhuddo dyn o ymosodiad rhyw mewn canolfan siopa

Bydd Phillip Daniel, o'r Barri, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 32 oed wedi'i gyhuddo yn dilyn ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Mae Phillip Daniel, o'r Barri, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ôl digwyddiad yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Mae wedi cael ei gadw yn nalfa'r heddlu tan hynny.