27 achos o E. coli wedi eu cofnodi yng Nghymru

e.coliFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 27 achos o haint E. coli bellach wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y gred yw bod y lledaeniad yn ymwneud â mathau penodol o frechdanau, wraps a saladau sydd wedi eu hadalw o archfarchnadoedd mawr y DU.

Mae bwydydd wedi cael eu galw yn ôl o sawl archfarchnad fawr gan gynnwys Aldi, Asda, Co-op a Morrisons.

Yn ôl swyddogion, "mesur rhagofalus" yw'r penderfyniad i adalw bwydydd.

Mae'r Greencore Group, sydd â safle yng Nghaerfyrddin a Samworth Brothers Manton Wood ymhlith y cwmnïau sydd wedi adalw eitemau.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 27 o achosion bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru - ac mae 44% o'r bobl hynny wedi derbyn triniaeth ysbyty ar ôl cael eu heintio.

Grŵp o facteria yw E. coli sydd yn byw yn y coluddyn heb achosi niwed fel arfer, ond mae rhai mathau, fel STEC, yn gallu achosi salwch difrifol.

Mae heintiau STEC yn aml yn achosi dolur rhydd difrifol, gyda gwaed ynddo o bryd i'w gilydd, poen yn y bol a thwymyn.

'Ymchwiliad cymhleth'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "gweithio gyda'u partneriaid ar hyd y Deyrnas Unedig er mwyn dod o hyd i achos y lledaeniad", meddai llefarydd ar eu rhan.

Dywedodd Darren Whitby, o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, fod asiantaethau eraill hefyd yn "gweithio i ddod o hyd i'r achos".

Ychwanegodd Mr Whitby: "Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ac rydym wedi gweithio’n gyflym gyda’r busnesau perthnasol a’r awdurdodau lleol dan sylw i leihau’r ystod eang o fwydydd a fwyteir i nifer fach o gynhyrchion dail salad sydd wedi’u defnyddio mewn brechdanau, wraps, subs a rholiau".

Mae'r Asiantaeth yn cynghori pobl i beidio â bwyta unrhyw gynnyrch sydd wedi cael eu hadalw.

Pynciau cysylltiedig