Achub dyn o gwch ar dân oddi ar arfordir Sir Benfro
![Criw bad achub yn tynnu at y gwch](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2d89/live/0088ede0-1b42-11ef-80aa-699d54c46324.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei achub o gwch hwylio oedd ar dân oddi ar arfordir Sir Benfro.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar ôl 19:00 nos Sadwrn wedi i aelod o'r cyhoedd weld mwg yn y pellter o'r lan môr yn Ystagbwll.
Wrth fynd o amgylch Ynys Farged fe welodd gwirfoddolwyr bad achub Dinbych-y-Pysgod fwg ar y gorwel tua 12 milltir i'r de.
Wrth gyrraedd fe welson nhw gwch hwyliau 35 troedfedd o hyd oedd bron wedi ei difrodi'n llwyr gan dân.
![Cwch ar dân](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/04ca/live/fbf40700-1b42-11ef-80aa-699d54c46324.jpg)
Bu'n rhaid achub dyn oedd yn cael trafferth i aros ar wyneb yn y dŵr.
Cafodd ei gludo i harbwr Dinbych-y-Pysgod ble roedd criwiau ambiwlans yn aros i ofalu amdano.
Yn ôl yr RNLI, doedd y claf ddim mewn sefyllfa i gadarnhau a oedd unrhyw un arall wedi bod ar fwrdd y cwch.
![Cwch ar dân](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/c3af/live/6eed4650-1b42-11ef-baa7-25d483663b8e.jpg)
Roedd y fflamau wedi achosi difrod mawr i'r gwch
Fe ddychwelodd y bad achub i'r ardal i gynnal archwiliad gyda chymorth bad achub Angle a hofrenyddion Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan a Newquay yng Nghernyw.
Er môr garw a glaw trwm, fe chwiliodd y criwiau am rai oriau cyn rhoi gorau arni gan fod neb wedi eu cofnodi fel person ar goll, a dychwelyd i'r orsaf tua 01:00 fore Sul.
Dywedodd llefarydd bod gorsaf dân Dinbych-y-Pysgod hefyd wedi rhoi cymorth, dan ddisgrifio'r digwyddiad fel un "cymhleth".