Arogl ffatri caws pitsa Sir Gaerfyrddin yn 'annioddefol'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger ffatri sy'n cynhyrchu caws pitsa yn dweud fod yr arogl yn "annioddefol" ac yn "effeithio ar ansawdd ein bywydau".
Mae Dairy Partners Ltd yn Aberarad, ger Castell Newydd Emlyn, yn cynhyrchu 400 tunnell o gaws pitsa yn wythnosol.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod 380 o gwynion wedi eu derbyn am y safle yn 2022 a 2023, yn bennaf am sŵn ac arogl.
Mae hefyd wedi cael eu beirniadu am waith trin gwastraff newydd gafodd ei adeiladu heb ganiatâd cynllunio.
Dywedodd llefarydd ar ran y safle fod cwynion wedi cael sylw.
Ychwanegodd Dairy Partners Ltd eu bod wedi gorfod gweithredu am fod yna fethiannau yn yr offer trin blaenorol, a oedd yn achosi costau ychwanegol sylweddol a phryderon am ansawdd dŵr yr afon.
'Pob ymdrech i fod yn gymydog da'
"Rydym yn goddef [yr arogl] ac wedi cael digon. Mae'n annioddefol yn yr haf," meddai un o'r trigolion lleol.
"Mae'n effeithio 100% ar ansawdd ein bywydau."
Honnodd un arall fod synau o wahanol ddarnau o offer ar y safle, gan gynnwys seiren pan bod nwy hylifol naturiol yn llifo, a bod hyn weithiau'n digwydd gyda'r nos.
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod wedi rhoi cyngor cyn-cais cynllunio i Dairy Partners yn 2019 am gynlluniau yn ymwneud â'r gwaith trin newydd.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod wedi cael cyngor i beidio â pharhau â'r gwaith adeiladu tra bod yr ardal i osod y gwaith trin newydd yn cael ei chlirio.
Aeth y gwaith adeiladu yn ei flaen, gan arwain at gŵyn gorfodol, ond dywedodd y cyngor nad oedd unrhyw ymweliad â safleoedd gorfodi yn cael eu cynnal ar y pryd oherwydd cyfnodau clo'r argyfwng Covid.
Dywedodd mewn amgylchiadau arferol y gallai ymweliad safle o bosib fod wedi arwain at roi'r gorau i'r gwaith dros dro.
Dywedodd CNC fod y gwaith trin gwastraff wedi'i adeiladu a'i weithredu heb y caniatâd amgylcheddol angenrheidiol, ond bod y drwydded wedi'i newid ym mis Mawrth eleni i ymgorffori'r cyfleuster.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Dairy Partners eu bod wedi ymgynghori â chymdogion cyn adeiladu'r gwaith trin newydd yn hufenfa Aberarad.
Roedd profion arogl pellach rhwng 2021 a 2022, meddai, wedi arwain at gamau gweithredu gan y cwmni.
Ychwanegodd bod CNC yn "ymgysylltu'n llawn yn y broses", a bod Dairy Partners wedi ateb cwynion am arogleuon ar yr un diwrnod ag y cawsant eu gwneud.
Ychwanegodd y llefarydd fod y cwmni wedi gwneud pob ymdrech i fod yn gymydog da, a bod buddsoddiad mewn offer i dawelu'r sŵn wedi ei wneud er nad oedd arolwg sŵn yn 2020 wedi dod o hyd i unrhyw broblem.