Problem pibell Dŵr Cymru 'wedi costio £20,000 i ni'
- Cyhoeddwyd
Mae tafarn leol yn Sir Benfro hyd at £20,000 ar ei cholled oherwydd bod un o bibellau Dŵr Cymru wedi gollwng.
Mae'r Trewern Arms yn Nanhyfer wedi bod heb ddŵr o leiaf bum gwaith eleni.
Yn ôl perchennog y dafarn mae'r busnes yn wynebu colledion yn ariannol ac effaith ar ei enw da.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod wedi dechrau ar y gwaith o ddatrys y broblem.
'Dim dŵr yfed ar adegau'
Mae’r dafarn wedi bod yn ganolbwynt i gymuned Nanhyfer ers cenedlaethau, ac yn fan poblogaidd i gerddwyr a thwristiaid.
Yn ôl y perchennog, James Miller, mae'r colledion ariannol hyd at £20,000 oherwydd yr effaith ar golli elw.
Mae'n bryder ychwanegol ar ôl cyfnod anodd i'r diwydiant lletygarwch, meddai, sy’n ceisio adfer yn dilyn y pandemig a chostau cynyddol.
"Dyw e ddim yn ddelfrydol ar adeg pan mae gwir angen i ni fod yn masnachu, i orfod cau ein drysau oherwydd nad oes gennym ddŵr," meddai.
Fodd bynnag, eleni nid yw gwesteion y gwesty wedi gallu golchi na chael dŵr yfed ar adegau oherwydd y cyflenwad diffygiol.
Mae James Miller yn poeni y bydd hyn yn effeithio ar enw da’r dafarn.
"Rhaid i ni barhau i wneud esgusodion oherwydd na allwn ni ddarparu bwyd i westeion," meddai.
"Hefyd, y ffaith bod pobl yn gorfod mynd i aros yn rhywle arall oherwydd bod y ffyrdd ar gau, a bod dim ffordd i gyrraedd yma."
Gofyn am bibell newydd
Billy Howells yw rheolwr cynorthwyol y Trewern Arms, ac mae'n pryderu y bydd y mater hwn yn "creu problemau" i’r busnes dros y misoedd nesaf hefyd.
"Pan oedden nhw wedi 'neud y pipe wythnos d'wethaf o’n nhw jyst 'di troi e bant a ddim 'di dweud wrthom ni unrhyw beth," meddai.
“Oedd washing machine ni wedi troi bant, oedd dim dŵr gyda ni yn y gegin i lanhau unrhyw beth rili.
“Doedd dim platiau, na dim cutlery ‘da ni. Oedd e’n stressful i ni front of house ac i’r gegin.
“Doedd [gwesteion] ddim yn gallu cael showers, ddim yn gallu cael bath. Oedd rhaid i ni roi poteli dŵr iddyn nhw gael yfed a brwsio’u dannedd."
“Ma’ fe’n ofnadwy," dywedodd, "bob diwrnod ni ar risg o golli arian ac yn gobeithio bod yr haf yn mynd i fod yn iawn.
"Ond os ma’ fe ddim bydd e bach yn sgeri i ni. Falle bydd dim busnes.”
Yn ôl perchennog y dafarn, mae Dŵr Cymru wedi gwrthod gosod pibell newydd yn lle'r un sy'n gollwng, dim ond trwsio darnau pan fo angen.
Mae James Miller yn dweud ei fod wedi cysylltu â Dŵr Cymru ar sawl achlysur i ofyn iddyn nhw osod pibell newydd.
Yn ôl Mr Miller, mae wedi cael “ychydig iawn” o ymateb.
“Yn lle arbed arian a cheisio patsio’r bibell, hoffwn eu gweld yn ailosod y bibell ac yn gwneud y peth iawn fel nad oes rhaid i ni gymryd y baich fel busnes mwyach,” meddai.
Dŵr Cymru'n 'ystyried'
Dywedodd Mr Miller ei fod hefyd eisiau cael ad-daliad am y difrod i’w eiddo.
Cafodd dillad gwely’r gwesty eu difetha ar ôl i'r dŵr yn y peiriant golchi droi'n frown.
“Mae’r rhain yn ddillad gwely masnachol, o safon, ac yn bethau sy’n costio llawer iawn i’w newid," meddai.
“Mae Dŵr Cymru yn sefydliad mawr iawn a does dim ffordd i’w gorfodi i ystyried rhywun mor fach â ni.”
Mewn datganiad fe ddywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw'n "ymwybodol o'r gollyngiadau sydd wedi digwydd yn yr ardal".
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i'n cwsmeriaid yno," meddai llefarydd.
"Pan fyddwn yn cael gollyngiadau fel hyn, rydym bob amser yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ddatrys y broblem, a gallwn gadarnhau ein bod yn y broses o gynllunio i newid y rhan o'r bibell yr effeithir arni.
"Byddwn yn cysylltu â'r cwsmeriaid maes o law i roi rhagor o wybodaeth iddynt am amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith arfaethedig."