Cymdeithas dai yn galw am sicrwydd ariannol hirdymor
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i roi ymrwymiad ariannol hir dymor i gymdeithasau tai Cymru os am wir fynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol.
Yn ôl prif weithredwr cymdeithas dai Adra yn y gogledd, dim ond blwyddyn o sicrwydd ariannol sydd i’w grant tai cymdeithasol.
Yn ôl Iwan Trefor, mae’r diffyg ymrwymiad yn golygu nad oes modd buddsoddi mewn cynlluniau mawr hir dymor, a hynny’n dwysau’r prinder.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol wedi derbyn “£12.5m i atal digartrefedd eleni” a bod y cyd-destun yr heriol.
Mae Adra wrthi’n gorffen stad newydd o 17 o dai eco-gyfeillgar at ddibenion rhent cymdeithasol yng nghanol Caernarfon.
Mae’r cynllun yn gobeithio cadw biliau tenantiaid yn isel gyda phaneli solar a phympiau gwres wedi eu gosod ym mhob un cartref.
Ond un cynllun yw hwn, a’r galw yn genedlaethol yn enfawr.
Cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys y broses gynllunio, sy’n dal cymdeithasau tai yn ôl medd Mr Trefor, ond mae hefyd am weld sicrwydd ariannol.
“Be ‘da ni angen ydi’r ymrwymiad tymor hir.
“Yn enwedig o ran cyllid... fyddai’n galluogi i ni gynllunio ac i roi cynlluniau ar waith.
“Ar hyn o bryd mae’r ymrwymiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig ar gyfer y grant tai cymdeithasol, a phe bai'r ymrwymiad am bum mlynedd neu 10 mlynedd, mi fyddai’n rhoi sicrwydd a hyder i ni gynllunio nifer mwy o gynlluniau ar draws gogledd Cymru fel hyn."
Tai rhent yn brin
Mae’r prinder tai rhent i’w deimlo ar draws Cymru ac mae Dafydd Roberts, 21, a’i bartner Nick Martin yn teimlo hynny wrth geisio canfod cartref newydd.
“Does dim digon o dai i fyw ynddyn nhw a rhentu preifat wedi mynd yn ddrud hefyd," meddai Dafydd.
“Ti’n sôn am £800 i £900 o leiaf ar rent bob mis a ma' hynny jest rhent!
“O ran tai cymdeithasol, mae’r list mor fawr, 'da chi’n aros am flynyddoedd."
Yn ôl Dafydd, mae’r broses a’r siom o beidio â sicrhau tŷ hefyd yn cael effaith emosiynol.
Mwy nag erioed mewn llety dros dro
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn rhoi darlun clir o faint y broblem hefyd, a nifer y bobl sy’n byw mewn llety dros dro gan eu bod wedi eu cofrestru’n ddigartref, ar ei uchaf erioed.
Ym mis Medi 2020 roedd 4,048 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro - sy’n gyfuniad o Airbnbs, gwestai, hosteli a stoc breifat.
Ym mis Medi 2023, mae’r ffigwr yna wedi cynyddu i 11,228, a 3,409 o'r rheiny'n blant.
Yng Ngwynedd fe wnaeth y cyngor dderbyn 123 o ffurflenni cais am dai ym mis Hydref 2023 yn unig.
Roedd 1,000 yn fwy o ebyst i'r cyngor hefyd yn gwneud ymholiadau - cyfanswm o 3,000 i gyd.
Dywedodd llefarydd fod y sefyllfa "costau byw, cynnydd cyfraddau llog a phrinder stoc" yn dwysau'r "argyfwng".
'42,500 wedi derbyn cefnogaeth'
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod dros 42,500 o bobl wedi derbyn cefnogaeth ers Mawrth 2020 drwy lety dros dro.
“Mae’n bwysig cofio niferoedd heddiw mewn cyd-destun yr her enfawr yr ydym yn ei wynebu," meddai.
“Ein ffocws o hyd yw atal hyn a cheisio sicrhau nad yw pobl yn gorfod troi at lety dros dro."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023