Croesawu mwy o gefnogaeth i ffermio organig

FfermioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd fe gafodd taliadau i ffermwyr sydd eisoes yn rheoli eu tir yn organig eu hailgyflwyno

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf ers 2022 bydd cefnogaeth ar gael i ffermwyr sydd am drosi i ffermio yn organig yn sgil y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Y llynedd fe gafodd taliadau i ffermwyr sydd eisoes yn rheoli eu tir yn organig eu hailgyflwyno.

Bydd modd gneud cais am gymorth ariannol i ddechrau ar y broses drosi, sy'n para am ddwy flynedd.

Mae'r galw am gynnyrch organig yn cynyddu, ac mae ffermwyr yn disgrifio'r newyddion am gymorth fel "datblygiad adeiladol" i hybu dulliau ffermio sy'n gyfeillgar â byd natur.

Daw ar ôl cyfnod ansefydlog wedi Brexit a cholli cymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd.

SanCler organig
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rowan McNeil y "bydd unrhyw gymorth yn bwysig"

Fe gafodd Sanclêr Organig ei sefydlu ar Fferm laeth Glancynin yn Sir Gaerfyrddin, sydd â thua 160 erw o dir a tua 80 o wartheg yn cynhyrchu rhyw 1,000 litr o laeth y dydd.

Dywed Rowan McNeill o'r cwmni: "Dim ond porfa mae'r gwartheg yn ei gael i fwyta.

"Ry'n ni'n defnyddio farmyard manure yn unig - dim slyri. Dyna'r unig beth y'n ni'n rhoi ar y caeau.

"Mae lot o bwysau ar y ffermwyr organig - mae'r output yn llai a rhaid delio â phrisiau isel a demand uchel - felly bydd unrhyw gymorth yn bwysig."

Iestyn Tudur Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iestyn Tudur-Jones fod clywed am y gefnogaeth yn "gadarnhaol"

I'r rheiny sy'n bwriadu agor drws ar ffermio organig, fe all y cyfnod trosi o ddwy flynedd fod yn heriol.

Mae hynny am fod ffermwyr yn gorfod cwrdd â safonau organig, ond yn methu gwerthu eu cynnyrch.

Dywed Iestyn Tudur-Jones o'r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw, sydd hefyd yn gyfrifol am ardystio'r cynllun organig Cymreig: "Mae'n braf cael cadarnhad fod yna ddilyniant ar gyfer ffermio organig yng Nghymru.

"Mae hyn wedi ei drin a'i drafod tipyn yn ddiweddar.

"Bydd unrhyw un sydd am drosi i fod yn organig yn cael help i 'neud hynny, ac mae hynny yn gadarnhaol.

"Dyle pobl edrych nawr i weld be sy'n addas ar gyfer eu busnes nhw ac ar gyfer eu marchnad nhw."

'Angen cysondeb'

Ond nid ffermwyr sydd am drosi i'r sector organig yn unig sydd yn pori drwy'r manylion yn y cynllun ffermio cynaliadwy.

Mae'r rheiny sydd wedi bod yn arloesi yn y maes hefyd yn edrych yn ofalus i weld pa gymorth fydd ar gael iddyn nhw.

Dywed Carwyn Adams, perchennog Caws Cenarth yn Sir Gaerfyrddin, fod "cymorth wedi bod yn y gorffennol, ond mae'n rhaid i'r cymorth fod yn gyson".

Mae e a'i deulu wedi bod yn ffermio yn organig ers y 90au.

Ychwanegodd: "Fe gafodd e ei stopio tair blynedd yn ôl. Pam?

"Ma' lot o ffermwyr 'di gadel ffermio organig oherwydd hyn. Ma' angen cysondeb."

Carwyn Adams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Adams a'i deulu wedi bod yn ffermio'n organig ers y 90au

Dywed Haydn Evans o Gymdeithas y Pridd, a chadeirydd Fforwm Organig Cymru, ei fod yn "falch i weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor fuddiol all ffermio organig fod i'r amgylchedd trwy ailagor y gefnogaeth hanfodol yma i drosi i ffermio yn organig".

Gyda thwf yn y farchnad organig, mae faint o dir fferm sy'n cael ei ffermio yn organig wedi aros yn ei unfan i raddau.

Ond fe allai ailgychwyn y gefnogaeth i'r rheiny sydd am fentro i'r maes newid hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.