Arestio dau mewn cysylltiad â diflaniad menyw o Gaerdydd

Cafodd Paria Veisi ei gweld diwethaf am tua 15:00 ddydd Sadwrn, 12 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad menyw 37 oed o Gaerdydd wedi arestio dau o bobl.
Dyw Paria Veisi ddim wedi cael ei gweld ers gadael ei gwaith yn ardal Treganna y brifddinas am tua 15:00 ddydd Sadwrn, 12 Ebrill.
Roedd yn gwisgo siaced ymarfer corff du ar ben crys coch, trowsus du ac esgidiau ymarfer.
Fe ddywedodd yr heddlu mewn datganiad nad oedd yn arferol i Ms Veisi ddiflannu fel hyn, a'u bod yn poeni am ei lles.
Mae dyn 41 oed a dynes 48 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'i diflaniad ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.