Dyn bron â marw o sepsis ar ôl gwasgu smotyn

Mae Geraint Mullins yn credu ei fod yn ffodus i fod yn fyw ar ôl datblygu abses yn ei wddf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a fu bron â marw o sepsis ar ôl gwasgu smotyn ar ei wddf yn rhybuddio eraill am beryglon y cyflwr.
Roedd Geraint Mullins, 24, o Gasnewydd, yn gwylio'r teledu adref pan sylwodd ar y smotyn a'i wasgu.
Mewn llai na diwrnod roedd y smotyn wedi troi'n abses.
Rhwng yr abses a chlefyd ulcerative colitis - nad oedd wedi derbyn diagnosis ohono - yn fuan datblygodd sepsis, gan olygu bod angen triniaeth frys yn yr ysbyty a dwy lawdriniaeth.
Mae Mr Mullins, sy'n credu ei fod yn ffodus i fod yn fyw, eisiau i eraill fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau sepsis, allai fod yn anodd ei adnabod.

Fe dyfodd abses poenus ar ei wddf a bu'n rhaid ei ddraenio
"Dwi'n mwynhau gwasgu smotiau - a pan wnes i wasgu'r un yma, oedd o'n teimlo fel un arferol," meddai Mr Mullins, sy'n gweithio yn y diwydiant nwy.
"Ond o fewn ychydig ddyddiau roedd o wedi troi yn abses eithaf mawr."
Dywedodd Mr Mullins iddo ddechrau dangos arwyddion o sepsis wedyn.
"Ro'n i'n ddiog iawn, ro'n i allan ohoni, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd," meddai.

Mae craith ar wddf Geraint ar ôl yr abses
Aeth i weld y meddyg ac yna cafodd ei ruthro mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, lle cafodd lawdriniaeth i ddraenio'r abses a gwrthfiotigau i ymladd y sepsis.
Ond roedd yr anaf yn dal i fod wedi'i heintio wythnos yn ddiweddarach, felly cafodd Mr Mullins ei ruthro i mewn am lawdriniaeth unwaith eto.
"Ro'n i'n agos iawn at y posibilrwydd o beidio â bod yma," meddai.
Dywedodd fod meddygon wedi dweud wrtho fod "y ffordd y gwnaeth o wasgu'r smotyn", ynghyd â phroblemau meddygol eraill, wedi achosi i'w system imiwnedd "or-ymateb".
"Fe wnaeth gwasgu'r smotyn ddechrau'r haint a achosodd y sepsis," meddai.
Beth yw sepsis?
Mae'r GIG yn disgrifio sepsis fel adwaith i haint, sy'n digwydd pan fydd system imiwnedd y corff yn gor-ymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau.
Mae'n gallu peryglu bywyd rhywun.
Ni allwch ddal sepsis gan berson arall, a gallai symptomau fod yn anodd eu gweld oherwydd y gallant ymddangos yn debyg i symptomau cyflyrau eraill fel y ffliw neu haint ar y frest.

Cafodd Mr Mullins lawdriniaethau yn yr ysbyty i drin ei glwyf
Er bod y salwch wedi digwydd pan oedd Mr Mullins yn 17 oed, mae bellach eisiau codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
"Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd o gwbl [am sepsis]," meddai.
"Doedd gen i ddim syniad beth oedd o, doeddwn i erioed wedi clywed amdano nes i mi ei gael."
Dywedodd meddygon wrth Mr Mullins, sy'n bêl-droediwr amatur, fod ei lefelau ffitrwydd wedi ei helpu i oroesi.
"Os fyswn i ddim mor ffit, fyswn i wedi gallu marw," meddai.
"Byddwn yn bendant yn annog pobl i ddysgu amdano ac addysgu eu hunain oherwydd gallai achub bywydau," ychwanegodd.
"Dwi'n sylweddoli pa mor ffodus ydw i i fod yma o hyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.