Canfod bwledi wedi difrod i eiddo ger Pen-y-bont ar Ogwr

Roedd dau dwll wedi'u darganfod ym mhanel gwydr drws ffrynt y tŷ yn ardal Maes Glas, Y Pîl
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos posib o saethu, wedi i fwledi gael eu darganfod ger cartref yn Y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd person yn y tŷ wedi clywed sŵn clec anferth ychydig cyn 04:00 ddydd Llun ac wedi canfod dau dwll ym mhanel gwydr y drws ffrynt yn ardal Maes Glas.
Ar ôl ymchwilio, fe ddaeth swyddogion o hyd i ddau fwled ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu'n credu bod y digwyddiad wedi digwydd tua 03:30.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn ymwybodol y gallai'r sefyllfa achosi pryder i bobl yn y gymuned.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Holmes: "Byddwch yn dawel eich meddwl bod ein hymchwiliad yn parhau, a'n bod yn gweithio'n galed i ddod i ddeall amgylchiadau llawn y digwyddiad hwn.
"Bydd cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu yn yr ardal a'r cyffiniau, tra bod yr ymchwiliad yn parhau."
Mae'r heddlu'n apelio at unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu.