Dyfarniad rhywedd â 'goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus'

Dywedodd Eluned Morgan bod y llywodraeth yn cydnabod "bod llawer o ofn ac ansicrwydd" wedi dyfarniad y Goruchaf Lys
- Cyhoeddwyd
Bydd "goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus" yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys bod diffiniad o fenyw dan gyfraith cydraddoldeb yn seiliedig ar ryw fiolegol, meddai Eluned Morgan.
Dywedodd y prif weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu "gyda pharch, tosturi a charedigrwydd", ond ei bod yn cymryd dyfarniad y llys "o ddifrif".
"Byddwn yn cymryd ein hamser nawr i weithio drwy oblygiadau hyn," meddai wrth y Senedd.
"Mae goblygiadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus."
Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn dweud mwy am effaith y dyfarniad "yn ddiweddarach yn yr haf".
'Llawer o ofn ac ansicrwydd'
Wrth wynebu cwestiynau yn y Senedd am y tro cyntaf ers dyfarniad unfrydol y llys, dyfynnodd sylwadau'r Arglwydd Hodge a ddywedodd nad oedd yn fuddugoliaeth i'r un grŵp dros un arall.
Dywedodd Eluned Morgan bod y llywodraeth yn cydnabod "bod llawer o ofn ac ansicrwydd mewn sawl lle".
Mewn datganiad ysgrifenedig ar wahân, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "parchu penderfyniad y Goruchaf Lys" ac "yn cymryd y camau sy'n ofynnol i fodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel yr eglurwyd gan y dyfarniad".
"Nid yw gwahaniaethu ac aflonyddu yn erbyn pob person ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig yn gyfreithlon, nac yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd," ychwanegodd.

'Synnwyr cyffredin' oedd y dyfarniad meddai Laura Anne Jones
Dywedodd yr AS Ceidwadol Laura Anne Jones fod dyfarniad y llys yn "fuddugoliaeth i fenywod a merched ledled Cymru, ac i synnwyr cyffredin".
Ychwanegodd nad oedd hi'n gwrthwynebu hawliau unrhyw un, ond ei bod hi eisiau "amddiffyn menywod a merched a sicrhau tegwch".
Dywedodd yr AS Llafur Hannah Blythyn bod aelodau'r gymuned LHDTC+ wedi cysylltu â hi yn yr wythnos a hanner ddiwethaf "yn eu dagrau ac yn ofnus ynghylch yr hyn y gallai ei olygu iddyn nhw".
Fel rhan o'i chynllun gweithredu LHDTC+, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol y bydd yn darparu canllawiau i ysgolion ar gefnogi plant traws.
Ond bellach mae'r llywodraeth wedi dweud bod ymgynghoriad wedi ei ohirio er mwyn sicrhau bod y canllawiau wedi eu selio ar dystiolaeth ddiweddar.
Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth eisiau i'r canllawiau barchu anghenion plant a phobl ifanc, yn ogystal ag "adlewyrchu lleisiau rhieni".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019