'Difrod wedi'i achosi gan syniadaeth rhywedd rhai cyrff cyhoeddus'

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dad-wneud y "difrod" o bolisïau blaenorol yn "her" meddai Tonia Antoniazzi

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Llafur wedi galw am asesiad trawslywodraethol o'r "difrod" sydd wedi'i achosi yn sgil mabwysiadu syniadaeth rhywedd gan rai cyrff cyhoeddus.

Honnodd Tonia Antoniazzi fod Llywodraeth Cymru a rhai sefydliadau eraill wedi cael eu "cipio" gan elusennau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol (LHDT) sy'n hyrwyddo'r syniad bod modd newid rhywedd.

Daw ei sylwadau ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys fod y diffiniad cyfreithiol o fenyw yn seiliedig ar ryw biolegol.

Dywedodd AS Gŵyr, er ei bod hi'n "wirioneddol falch" bod y dyfarniad wedi darparu "eglurder" ynghylch hawliau yn seiliedig ar rywedd, bydd dadwneud y "difrod" o bolisïau blaenorol yn "her".

Protest yn erbyn y dyfarniad
Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth dros 1,000 o bobl brotestio yng Nghaerdydd yn erbyn penderfyniad y Goruchaf Lys

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Antoniazzi: "Mae'n rhaid cael asesiad o… ba mor ddrwg ydyw… a dim ond trwy gael pobl o amgylch y bwrdd, trawsadrannol, trawslywodraethol, gweithio gyda'r gwledydd datganoledig a gweithio allan beth yw'r darlun ar draws y Deyrnas Unedig y bydd hynny'n cael ei wneud."

Ym mis Hydref 2021, fe wnaeth ymchwiliad gan y BBC ddangos fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dehongliad Stonewall o gyfraith cydraddoldeb yn rhai o'u polisïau, gan gynnig amddiffyniadau na ddarperir yn y gyfraith.

Gofynnodd y BBC i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau diweddaraf Tonia Antoniazzi yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried dyfarniad y Goruchaf Lys a'i goblygiadau i Gymru yn ofalus, a byddwn yn edrych i asesu a oes angen i ni adolygu ein canllawiau."

'Gwerthu celwydd'

Fe wnaeth Ms Antoniazzi hefyd gyhuddo dwy elusen LHDT, Stonewall a Mermaid, o ddweud "celwydd" wrth blant a phobl ifanc yn y gorffennol drwy honni y gallan nhw newid eu rhywedd.

Mae hi'n galw ar y llywodraeth i roi cymorth a chefnogaeth i ddelio â'r "difrod" y mae'n dweud y mae'r ddwy elusen wedi'i wneud i "genhedlaeth o blant traws ac ansicr".

"Mae [Stonewall a Mermaids] wedi trawsnewid nifer fawr o blant sydd wedi byw eu bywydau gan gredu eu bod wedi newid rhywedd, ond nad ydyn nhw, ac ni fyddant byth yn gallu gwneud hynny," meddai'r AS.

"A dyna'r difrod maen nhw wedi'i wneud oherwydd eu bod wedi gwerthu celwydd iddynt."

Awgrymodd Ms Antoniazzi hefyd na ddylai cyrff cyhoeddus a llywodraethau fod yn prynu gwasanaethau gan yr un o'r ddwy elusen, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi a deunydd.

Cofeb genedlaethol StonewallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb genedlaethol Stonewall, gyferbyn â'r Stonewall Inn yn Efrog Newydd, safle cyrch gan yr heddlu yn 1969

Dywedodd Stonewall eu bod yn adolygu eu polisïau a'u canllawiau yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys a'u bod yn aros am unrhyw ddiweddariadau i ganllawiau statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ychwanegodd yr elusen: "Mae canllawiau Stonewall bob amser wedi adlewyrchu'r gyfraith – rydym yn adolygu ein canllawiau yn rheolaidd ac yn gweithio gydag arbenigwyr cyfreithiol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r datblygiadau cyfreithiol diweddaraf. Byddwn yn parhau i wneud hynny."

'Pawb yn haeddu mynegi eu hunain yn rhydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Mermaids eu bod "yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc draws, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd o dan 20 oed, eu hanwyliaid, a chynghreiriaid plant a phobl ifanc traws.

"Nid ydym yn cynnig cyngor o unrhyw fath, gan gynnwys cyngor meddygol.

"Rydyn ni yma i helpu pobl i archwilio beth sy'n digwydd yn eu bywydau, sut maen nhw'n teimlo, a beth allai weithio orau iddyn nhw.

"Ni allwn, ac nid ydym, yn cyfeirio unrhyw un tuag at benderfyniad neu lwybr penodol.

"Gall 'trawsnewid cymdeithasol' gynnwys newid eich enw a'ch rhagenwau, diweddaru'ch cwpwrdd dillad, arbrofi gyda gwahanol steiliau gwallt neu gynhyrchion harddwch sy'n cyd-fynd yn well â sut rydych chi am fynegi eich rhywedd.

"Mae'r rhain yn bethau y gall unrhyw un eu gwneud, waeth beth fo'u rhywedd.

"Mae pawb yn haeddu mynegi eu hunain yn rhydd, gan gynnwys sut maen nhw'n cyflwyno eu hunain."

Dywedodd Tonia Antoniazzi wrth BBC Cymru ei bod hefyd yn cytuno â gweinidog cydraddoldeb Llywodraeth y DU, Bridget Phillipson, y dylai menywod traws ddefnyddio toiledau yn ôl eu rhyw biolegol.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n deall y byddai rhai menywod traws yn amharod i ddefnyddio toiledau dynion, dywedodd yr AS na ddylen nhw fod.

"Mae ganddyn nhw hawl i fod yn nhoiledau'r dynion.

"Mae ganddyn nhw hawl i fod yn ddiogel" meddai.