Y gantores Iris Williams wedi marw yn 79 oed

Cafodd Iris Williams OBE yn 2004 a'i hurddo i Orsedd Cymru yn 2006
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores o Gymru, Iris Williams wedi marw yn 79 oed.
Cafodd ei geni ym Mhontypridd a'i magu yn Nhonyrefail. Ond fe dreuliodd sawl cyfnod o'i bywyd yn yr UDA - yn Efrog Newydd ac yn fwyaf diweddar yng Nghaliffornia, ble bu farw.
Bu'n gweithio mewn ffatri cyn iddi dderbyn ysgoloriaeth i fynychu'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel cantores, yn canu 'Pererin Wyf' ac fe enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1974 gyda'r gân 'I gael Cymru'n Gymru Rydd'.
Yn 1979 fe gyrhaeddodd 20 uchaf siartiau'r DU gyda'r gân 'He Was Beautiful' ac fe ddaeth yn enw cyfarwydd.
O ganlyniad i'w phoblogrwydd cafodd gyfres ei hun ar y BBC, perfformiadau Royal Variety, cabaretau mawreddog a gyrfa ryngwladol a barhaodd am fwy na phedair degawd.
'Roedd gan Iris steil unigryw ei hun'
Mewn teyrnged iddi, dywedodd y soprano operatig a chyflwynydd Radio Wales, Beverley Humphreys, mai "canu oedd ei hangerdd erioed, ac er gwaethaf treulio ei blynyddoedd cynnar mewn cartref plant yn Nhonyrefail, enillodd Iris ysgoloriaeth yn y pen draw i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru."
"Denodd ei llais dwfn, mynegiannol sylw David Jacobs a recordiodd ganeuon ar gyfer ei sioeau ar Radio 2."
Ychwanegodd fod gan "Iris ei steil jazz unigryw ei hun - bywiog ac urddasol - gyda gwreichionen yn ei llygad - roedd ganddi ffordd o fyw ym mhob cân a ganai."
"Disgleiriodd ei seren yn llachar ar draws yr Iwerydd. Rhannodd Iris y llwyfan gyda chwedlau fel Bob Hope, Rosemary Clooney, Tony Bennett a Harry Connick Jr."
"Er mai America oedd ei chartref yn y pen draw, roedd Iris bob amser yn angerddol am Gymru."

Roedd Iris yn fenyw "bywiog a doniol," yn ôl ei brawd Ashley
Mae'i brawd, Ashley Williams, hefyd wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud "ei fod yn arbennig o agos at ei chwaer" oedd yn "fenyw fywiog a doniol iawn".
"Yn fy marn i, roedd hi'n un o gantorion mwyaf tanbrisiedig Cymru," meddai.
"Yn ei blynyddoedd olaf, gweithiodd yn rhai o'r lleoliadau cabaret mwyaf mawreddog yn America lle canodd ganeuon Cymreig, roedd hi'n hoff iawn o'r iaith Gymraeg.
"Pan roedd yn dod yn ôl i Gymru, arferai ddod i'r tŷ llawer, ac roeddwn i bob amser yn arfer dweud 'ble wyt ti eisiau mynd?' a byddai hi bob amser yn dweud Tonyrefail."
"Roedd hi wrth ei bodd â'r cymoedd, roedd ganddi gymaint o gefnogaeth gan bobl yn y cymoedd.
"Yr hyn yr oedd hi wir yn ei garu oedd y corau a'r gerddoriaeth Gymreig. Y peth olaf a ddywedodd wrthyf oedd ei bod hi eisiau dod yn ôl i Gymru."
'Adroddwr straeon'
Bu'n perfformio mewn amryw o gyngherddau nodedig gan gynnwys o flaen y Frenhines Elizabeth II ac i Arlywydd yr UDA Gerald Ford ar sawl achlysur.
Roedd hefyd yn un o'r rheiny fu'n serennu yng nghyngerdd agoriadol Senedd Cymru yn 1999, ac fe gafodd ei hurddo yn rhan o Orsedd Cymru.
Cafodd ei gwobrwyo ag OBE yn anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2004.
Dywedodd Beverley Humphreys "mai dyma oedd uchafbwynt ei gyrfa."
"Roedd hi wrth ei bodd â'r Great American Songbook ac yn mwynhau adrodd y straeon am gariad, gobaith neu dristwch a fynegir yn y geiriau", ychwanegodd.
"Roedd Iris yn adroddwr straeon y gallai ei llais wneud i'ch traed dapio neu gyffwrdd â'ch calon. Roedd hi'n brydferth."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cymdeithas Dewi Sant Talaith Efrog Newydd fod Williams wedi "ymuno â'r côr nefol lle bydd ei chanu llawen yn sicr o ddod â'r llawenydd anfesuradwy hwnnw yr ydym wedi cael yr anrhydedd o'i rannu".
"Roedd gan Efrog Newydd le arbennig yn ei bywyd ac yma y rhoddodd enedigaeth i'w hunig blentyn, Blake. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad diffuant a'n cydymdeimlad dwysaf ato," meddai'r gymdeithas.