Beibl Mary Jones yn dychwelyd adref

- Cyhoeddwyd
Mae'r Beibl Cymraeg y teithiodd Mary Jones i’r Bala i’w brynu wedi dychwelyd i Lanfihangel-y-pennant, lle'r oedd hi’n byw, y penwythnos hwn.
Fe gerddodd Mary Jones 26 milltir yn droednoeth o’i chartref i’r Bala i’w brynu ym 1800; dyma oedd y symbyliad dros sefydlu mudiad Cymdeithas y Beibl.
Y tro diwethaf i'r Beibl fod ar gael i’r cyhoedd ei weld yng Nghanolfan Pererin Mary Jones yn y Bala oedd yn 2016, ac mae yno’r penwythnos hwn i nodi 10 mlynedd ers sefydlu’r ganolfan honno.
Dywed y trefnwyr eu bod yn edrych ymlaen at arddangos y Beibl i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Cenhedlaeth newydd i ddysgu'r hanes
Fel arfer mae'r Beibl yn cael ei gadw yn archifau Cymdeithas y Beibl ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn, dywedodd Nerys Siddal, rheolwr Canolfan Pererin Mary Jones, mai dyma "uchafbwynt dathlu deg mlynedd" y ganolfan.
Dywedodd fod y Beibl wedi bod yn crwydro'r ardal gan gynnwys yr ysgolion lleol ac hyd yn oed wedi ymweld â "muriau adfail bwthyn Mary Jones" a oedd yn foment "swreal" meddai.
Dywedodd fod y Beibl yn "rhan mor bwysig o hanes" a bod yr ymateb wedi bod yn "wych" hyd yma.
Roedd yn falch fod "cenhedlaeth newydd o blant" yn cael gweld y Beibl a dysgu am yr hanes y penwythnos hwn.

Mae'r Beibl wedi bod yn crwydro'r ardal gan gynnwys yr ysgolion lleol
Y tro diwethaf i'r Beibl ymweld â'r ganolfan oedd yn 2016.
Wrth sôn am edrychiad y Beibl, dywedodd ei fod “yr un maint â Beibl cyffredin o ran hyd a lled" ond ychwanegodd ei fod "mewn cyflwr mwy bregus nag oedd o'r blaen".
Gyda'r Beibl bellach dros 200 oed, dywedodd fod 'na "lot o ganllawiau" i'w dilyn er mwyn gofalu amdano.
"Mae gwarchodwyr y Beibl efo'r Beibl drwy'r adeg ac aelod o staff Cymdeithas y Beibl i wneud yn siŵr fod y canllawiau yn cael eu dilyn".