Meddygon yn dweud 'mae'r cyfan yn dy ben' er poen cyson

Nia McGregorFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd Nia McGregor yn cymryd 79 o dabledi bob dydd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Dydy rhai meddygon ddim yn cymryd cleifion "yn ddigon o ddifrif", yn ôl aelodau grŵp cymorth i bobl sy'n byw gyda ffibromyalgia yn Sir Ddinbych.

Mae'r cyflwr yn achosi poen corfforol a blinder eithafol, gyda rhai aelodau o'r grŵp yn dweud eu bod wedi gorfod aros dros 20 mlynedd am ddiagnosis.

Dywedodd Nia McGregor o Ruthun ei bod wedi ceisio lladd ei hun sawl gwaith oherwydd y diffyg cymorth diagnosis.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod fod angen mwy o ddatblygu" yn y maes, ond eu bod yn gwneud hynny "wrth i'n dealltwriaeth gynyddu".

'Treulio bywyd ar y soffa yn crio'

Am saith mlynedd bu Nia yn byw gyda phoen cronig heb ddiagnosis. Doedd hi ddim isio byw.

"Mae meddygon yn pasio ti o gwmpas yr adrannau i gyd. Ti'n colli annibyniaeth, doedd gen i neb i siarad 'efo fo," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"'O'n i really isio lladd fy hun."

Yn ôl y fam a'r nain, sy'n 48, roedd ei chyflwr mor llethol nes iddi geisio dod â'i bywyd i ben dair gwaith.

"'Aru mam ddod a safio fi. Ond, weithia dwi'n teimlo fel - pam fasa ti just gadael fi."

Wedi saith mlynedd o brofion, sganiau a chymryd "pob math o foddion", yn 2014 cafodd ddiagnosis swyddogol o ffibromyalgia.

"Ar fy isaf roeddwn yn cymryd 79 o dabledi bob dydd.

"Ac mae side effects y tabledi yr un mor ddifrifol â'r problemau sydd gen ti i ddechrau.

"Rois i bump stôn ymlaen. O'n i'n treulio mywyd yn eistedd ar y soffa yn crio."

Nia McGregorFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia McGregor yn dweud bod ffibromyalgia yn effeithio "bob dim"

Mae Nia yn un o'r dros 200 o aelodau grŵp cymunedol newydd sydd wedi ei sefydlu i gefnogi rhai sy'n byw hefo'r cyflwr a'u teuluoedd yn Sir Ddinbych.

Cyn cael diagnosis, roedd Nia yn gweithio yn y byd iechyd a diogelwch fel archwilydd sgaffaldiau.

Roedd hi'n hoffi teithio a mynd am dro ar ei beic modur, ond ers y salwch mae pob symudiad yn achosi poen drwy'i chorff.

"Mae o'n effeithio bob dim," meddai.

"Mae gwisgo dillad yn brifo, mae siarad 'efo pobl yn brifo. Dwi ddim yn gallu gweithio, na gyrru car. Dwi just yn eistedd adra."

'Anwybodaeth ydy'r brif broblem'

Yn aml, mae ffibromyalgia yn taro ar ôl digwyddiad o straen corfforol neu emosiynol.

Dywedodd Nia iddi ddioddef o endometriosis ers yn 11 oed, a phan oedd hi'n 20 oed cafodd lawdriniaeth hysterectomy.

Mae hi'n credu efallai mai'r trawma hwnnw oedd wrth wraidd y ffibromyalgia yn cydio flynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn ystod y saith mlynedd heb ddiagnosis, eglurodd Nia ei bod hi'n teimlo yn isel iawn gan nad oedd meddygon yn "gwbod be' i 'neud 'efo fi".

"Ar un pwynt - roedd rhaid i mi fynd i Ysbyty Glan Clwyd am nad oeddwn i wedi gallu defnyddio'r toiled am 49 diwrnod.

"Roedd hyn i gyd oherwydd faint o dabledi oeddwn i'n eu cymryd."

Yna, un diwrnod mi benderfynodd bod rhaid i'r sefyllfa newid. Daeth o hyd i feddyg gwahanol ac mi newidiodd ei phresgripsiwn.

"Dim ond saith tabled y dydd dwi'n eu cymryd rŵan a dwi'n gallu ymdopi yn llawer gwell," meddai.

Ers y diagnosis ffibromyalgia tydi bywyd ddim wedi bod yn hawdd i Nia. Yn 2020 mi gafodd ganser y fron a mastectomy dwbl.

Mae byw gyda phoen y ffibromyalgia yn "rhwystredig uffernol," meddai.

"'Da chi'n colli eich annibyniaeth. Mae'n rhaid i mi ddibynnu ar fy mam - mae hi'n mynd â fi i bobman.

"Chi'n gweld pobl eraill yn gwneud pethau na allwch chi eu gwneud, pethau yr oeddech chi'n arfer eu gwneud.

"Anwybodaeth ydy'r brif broblem hyd yn oed gyda meddygon teulu. Am amser hir, roedd yna feddylfryd mawr yno, fod y cyfan yn fy mhen i."

Newidiodd pethau ar ôl iddi weld arbenigwr mewn rhewmatoleg.

Mae hi'n dweud iddo gymryd "un golwg arna i" a dweud yn syth, "dwi'n gwybod nad yw yn eich pen chi".

Nid yw'n glir pam bod pobl yn datblygu ffibromyalgia, ond mae'r gwasanaeth iechyd, dolen allanol yn dweud bod newidiadau i'r system nerfol a geneteg yn ffactorau posib.

Mae anafiadau mawr, salwch neu drawma arwyddocaol hefyd yn gallu bod yn gysylltiedig.

Kevin a Pam JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Kevin y grŵp ar ôl gweld ei wraig, Pam, yn dioddef

Wrth weld ei wraig sydd â fibromyalgia yn "dioddef ar ei phen ei hun", mi benderfynodd Kevin Jones o Ruthun sefydlu grŵp cymunedol er mwyn rhoi cyfle i bobl rannu profiadau.

"Ro'n i'n gweld nad o'n i yn medru rhoi y gefnogaeth lawn iddi," meddai. "'O'n i'n teimlo basa pobl eraill sydd 'efo ffibro yn gallu gwneud yn well."

Erbyn hyn mae gan y grŵp ar-lein dros 200 o aelodau ac maen nhw'n cyfarfod yn fisol.

Yn ôl Kevin mae codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn bwysig o fewn y "gymuned feddygol a'r cyhoedd".

Mae o a'i wraig, Pam, yn poeni nad ydy rhai meddygon "yn ei gymryd o yn ddigon serious".

"Efallai ei fod o braidd yn loteri cod post, ella eich bod chi'n lwcus gyda'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd.

"Mae'n wirioneddol hit and miss os gewch chi ddiagnosis ai peidio, ac o fewn amserlen sy'n dderbyniol.

"Mae rhai o aelodau'r grŵp yma wedi aros dros 20 mlynedd am ddiagnosis."

Gobeithio ysbrydoli grwpiau eraill

Er nad oes "digon o bobl yn deall amdana fo" yn ôl Kevin, mae'n dweud fod rhannu gwybodaeth ar-lein yn help.

"Mae 'na 'chydig mwy o sylw yn cael ei roi i ffibromyalgia pan glywch chi am enwogion 'efo'r cyflwr.

"Os ydy hynna yn Lady Gaga neu beth bynnag, y cyfryngau cymdeithasol yn bennaf ydy'r prif lwybr o drafod y broblem."

Mae'n gobeithio y bydd llwyddiant grŵp cymorth Sir Ddinbych yn ysbrydoli eraill i sefydlu grwpiau ledled Cymru.

Angharad Rees a'i chiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Rees yn dweud bod meddygon wedi ei chyhuddo o ddweud celwydd

Ar ôl cael diagnosis o'r syndrom prin Ehlers-Danlos, mae Angharad Rees, sy'n 45 o Landegla, wedi cael cadarnhad fod ganddi hefyd ffibromyalgia.

Ond mae hi'n dweud fod cael diagnosis wedi bod yn anodd iawn, gyda rhai meddygon yn ei chyhuddo o "ddweud clwyddau" am ei symptomau.

"Mae o'n 'neud i ti deimlo bo' ti werth dim byd. Bo' 'na neb yn gwrando arnat ti," meddai.

"Mae'r medical gaslighting dyddia' yma wedi mynd yn ofnadwy."

Mae hi'n cofio eistedd mewn ystafell mewn ysbyty yn "crio a chrio" ar ôl i arbenigwr ddweud wrthi nad oedd hi'n dweud y gwir am ei symptomau.

"Be' ma'n nhw'n weld ydy bod ti'n upsetio ac yn crio, ac yna yn deud wrtha ti yn bendant mai cyflwr iechyd meddwl ydy o.

"Mae'r rhwystredigaeth yn ofnadwy achos does 'na neb yn gwrando."

Mae hi'n falch fod y grŵp ffibromyalgia Rhuthun wedi ei sefydlu, ac yn cael cysur o gyfarfod eraill sydd yn yr un sefyllfa.

"Da ni'n gymorth i'n gilydd ac mae hynny yn wych, ond da ni'n disgwyl mwy gan y meddygon a gan y llywodraeth i 'neud mwy droson ni."

'£8m y flwyddyn i raglen Adferiad'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ehangu gwasanaethau o'u rhaglen Adferiad, a gafodd ei sefydlu i drin Covid hir, er mwyn darparu ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau eraill hefyd, gan gynnwys ffibromyalgia.

"Rydyn ni'n buddsoddi £8m yn flynyddol yn y rhaglen," meddai llefarydd.

"Tra'n bod yn cydnabod fod angen mwy o ddatblygu, yn enwedig o ran casglu data, rydyn ni'n parhau wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau yma yn datblygu wrth i'n dealltwriaeth a'n tystiolaeth graidd gynyddu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig