'Gweld y byd yn frwnt': OCD yn llawer mwy na gorbryder

Mae Cadi Hallgarth yn byw gydag OCD ers yr oedd hi'n blentyn ifanc a bellach yn ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid
Mae merch sy'n byw ag OCD (obsessive compulsive disorder) yn dweud bod angen i mwy o bobl "ddeall" y cyflwr.
Cafodd Cadi Hallgarth, o Landysul, ddiagnosis swyddogol o OCD bedair blynedd yn ôl ond o edrych yn ôl, yn gallu adnabod y bu'n profi symptomau flynyddoedd lawer cyn hynny.
Heb sylweddoli yr oedd hi'n byw gyda'r anhwylder, roedd yn brofiad "dryslyd iawn" ceisio deall sut oedd pobl o'i chwmpas yn byw eu bywydau heb orfod gwneud pethau penodol.
Yn ôl Rethink Mental Illness, mae'r anhwylder yn effeithio ar 1 ymhob 50 o bobl yn y Deyrnas Unedig, ac yn aml yn cael ei gamddeall.
'Ofn torri bys fi off tra'n cwcan'
Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, eglurodd Cadi fod ei symptomau yn ymddangos mewn sawl ffordd.
Un o'r meddyliau mwyaf cyffredin y bydd Cadi yn ei brofi yw credu ei bod 'wedi gwneud rhywbeth' neu 'am wneud rhywbeth' – pan nad ydy hi mewn gwirionedd.
"Mae'n gallu bod yn unrhyw beth, pethau gwael fel arfer," esboniodd.
"Fel, byddwn i'n cwcan neu rywbeth, ac yn meddwl 'oh... fi'n mynd i dorri bys fi off gyda'r gyllell 'ma, ac wedyn mae'n rhaid i mi stopio.
"A meddwl fod pethau am ddigwydd am fy mod i wedi meddwl gormod amdanyn nhw'n digwydd" meddai.

Mae Llinos (chwith), sy'n fam i Cadi, yn disgwyl diagnosis o ADHD ac OCD, ar ôl cael gwybod am anhwylder ei merch
Yn dilyn diagnosis Cadi, daeth Llinos Hallgarth (mam Cadi) i ddeall bod modd i'r anhwylder fod yn etifeddol, a dechreuodd gwestiynu a oedd hithau'n dioddef o'r anhwylder.
Mae gan Llinos ddiagnosis o ddyslecsia eisoes, ac yn dilyn trafodaethau diweddar gyda'i meddyg teulu, mae'n debyg bod ei thrafferthion ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn symptom o ADHD ac/neu OCD.
Dywedodd: "Ni methu jest codi mas o'r gwely a 'bant a ni', neu fynd drwy'r dydd heb wneud adjustments.
"Hyd yn oed os ydyn ni wedi cynllunio popeth 'ni'n gallu... ma' pethe dal yn mynd i'r chwith ac yn gallu effeithio arnom ni am oriau.. diwrnodau... neu hyd yn oed misoedd," meddai.
Er mor heriol yw ceisio byw gyda'r anhwylder, dywedodd Llinos fod y ffaith fod y ddwy ohonyn nhw'n dioddef, er mewn ffyrdd gwahanol, yn gallu bod yn help.
"Mae symptomau Cadi yn wahanol i fi, ac mae'n gallu gwneud ein bywydau ni'n fwy caled.
"Ond mae'n 'helpu' ni beidio â theimlo ein bod yn dioddef ar ein pen ein hunain," eglurodd.
"Mae angen i bobl ddeall yr anhwylder yn fwy, er mwyn gallu bod yn fwy caredig gyda'r rheiny sy'n gweithio ychydig yn wahanol.
"Dyw e ddim yn wrong, jest yn wahanol" dywedodd.

Mae Cory Jenkins o Gaerdydd yn rhedeg busnes trin ewinedd ac yn cynnig apwyntiadau 'tawel'
Un arall sy'n byw ag OCD yw Cory Jenkins o Gaerdydd, sy'n rhedeg busnes trin ewinedd.
Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod wrth ei fodd yn cael cynnig profiad "ymlaciol" i bobl, a bod iechyd ewinedd yn "agored i bawb":
"Ti'n teimlo'n neis ar ôl cael gwneud nhw, nid profiad jest i ferched yw e," meddai.
Fel rhan o'i fusnes, mae Cory yn cynnig apwyntiadau 'tawel' (silent appointments) i bwy bynnag sydd yn gweld angen hynny:
"Fi eisiau i bobl deimlo'n gyfforddus yn fy nghadair i pan dwi'n gwneud eu hewinedd nhw.
"Ar ôl diwrnod hir o waith, mae pobl weithiau jest eisiau ymlacio – mae pobl yn casáu small talk!" eglurodd.
'Mwy na gorbryder'
Mae Cory, sy'n 24 oed, wedi profi pyliau o orbryder ar hyd ei fywyd ac yn derbyn meddyginiaeth i'w drin erbyn hyn.
Diolch i'r cynnydd mewn sgyrsiau agored ar-lein ac ar gyfryngau fel TikTok, dechreuodd gwestiynu a oedd rhywbeth arall yn mynd ymlaen:
"Weithiau oeddwn i'n meddwl: 'actually, dwi'n meddwl fod rhywbeth arall yn bod'.
"Doeddwn i ddim yn siŵr beth, achos dwi'n deall fod gen i anxiety, ond yn gwybod roedd rhywbeth arall hefyd.
"Ar ôl siarad efo'r meddyg, roedden nhw'n meddwl fod gen i OCD – ond ro'n i'n credu mai jesd checio drws a gosod pethau'n daclus oedd OCD" esboniodd.
"Mae OCD yn cael ei egluro mewn ffordd sydd ond yn trafod y golchi dwylo... checio drysau ac ati... a phrin yn aml ti'n clywed am y really obsessive thoughts.
"Nawr dwi wedi newid meddyginiaeth sy'n mynd i'r afael â'r ddau gyflwr – mae pethau'n gymaint haws, o'r diwedd," meddai.
Beth yw OCD?
Mae OCD yn gyflwr iechyd meddwl sy'n effeithio ar tua 1-2% o boblogaeth y Deyrnas Unedig.
Mae'r anhwylder yn deillio o orbryder sy'n achosi i unigolion brofi meddyliau negyddol, ailadroddus ac ymwthiol (intrusive) mewn modd obsesiynol.
Fel modd o geisio rheoli'r meddyliau hyn, bydd unigolion wedyn yn ymgymryd ag ymddygiad gorfodaethol (compulsive) er mwyn lleddfu'r pryder.
Enghraifft gyffredin o hyn yw pan fydd pobl yn glanhau yn eithafol tan y bydd pethau'n teimlo'n 'iawn', er mwyn lleihau'r pryder sy'n deillio o'u hofnau obsesiynol.
Gan amlaf, bydd yr anhwylder yn datblygu yn ystod arddegau hwyr unigolion ond ceir rhai achosion lle caiff effaith ar blant mor ifanc â chwe blwydd oed.
Ffynonellau: ocdaction ac OCD UK
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, gallwch gysylltu gyda BBC Action Line.