Gwahardd meddyg dros bresgripsiwn ar gyfer ei hun

Llun o feddyg teulu yn ysgrifennu presgripsiwn Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Callum Metcalfe ei fod yn "benderfynol o ddysgu o'i gamgymeriadau"

  • Cyhoeddwyd

Mae meddyg teulu dan hyfforddiant wedi cael ei wahardd am bum mis ar ôl ysgrifennu presgripsiwn ar gyfer ei hun.

Clywodd dribiwnlys meddygol bod staff yn amheus pan aeth Dr Callum Metcalfe, 29, i fferyllfa ym Mangor gyda nodyn wedi ei ysgrifennu â llaw.

Clywodd y gwrandawiad bod y feddyginiaeth wedi ei rhagnodi iddo yn gyfreithlon, ond fe redodd allan ohono tra'n ymweld â ffrindiau yng ngogledd Cymru yn ystod dathliadau'r Flwyddyn Newydd yn 2022.

Dyfarnodd y tribiwnlys bod achos y rhagnodyn, ynghyd ag euogfarn am yfed a gyrru, yn golygu bod rhaid ei wahardd yn syth.

Roedd Dr Metcalfe wedi cymhwyso fel meddyg yn 2019, ac roedd yn hyfforddi fel meddyg teulu. Roedd wedi treulio cyfnodau ym meddygfa Bron Meirion ym Mhenrhyndeudraeth, ger Porthmadog.

Erbyn dechrau Ionawr 2022 roedd yn gweithio i ymddiriedolaeth ysbytai South Tees yng ngogledd ddwyrain Lloegr, ac fe ymwelodd â ffrind yng ngogledd Cymru i helpu gyda phrosiect DIY.

Honni ei fod yn helpu ffrind

Clywodd y gwrandawiad, a barodd am bythefnos, fod Dr Metcalfe wedi mynd â'r presgripsiwn wedi ei ysgrifennu â llaw i fferyllfa siop Tesco ym Mangor.

Ei enw a'i lofnod ei hun oedd arno, fel y meddyg oedd wedi ei ragnodi, ond roedd y presgripsiwn ag enw gwahanol ar gyfer y claf, ac fe ddywedodd Dr Metcalfe wrth y staff taw ef ei hun oedd y claf.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe ffoniodd y fferyllfa, yn ei enw ei hun y tro hwn, gan ddweud ei fod yn ceisio helpu ffrind tra bod y feddygfa ar gau dros wyliau'r flwyddyn newydd.

Fe gofnododd staff y fferyllfa bod amheuaeth ynghylch y presgripsiwn, ac fe wnaeth Dr Metcalfe gyfeirio ei hun hefyd i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn nes ymlaen yr un mis.

Ond tra bod y GMC yn ymchwilio i'r achos, fe gafodd ei erlyn am yfed a gyrru gan dderbyn gwaharddiad gyrru a dirwy.

Dywedodd cadeirydd y tribiwnlys meddygol, Claire Lindley fod yr heddlu wedi dod o hyd i Dr Metcalfe, am 22:25 ar 16 Mai 2023, "yn cysgu yn ei gar ar flaen-gwrt gorsaf betrol".

Ychwanegodd: "Roedd yn swp dros y llyw, roedd yr injan yn rhedeg, ac roedd potel whisgi hanner gwag rhwng ei goesau."

Meddyginiaethau presgripsiwnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Metcalfe ei fod yn "deall nawr" bod yr hyn a wnaeth wedi tanselio ymddidiredaeth yn y proffesiwn yn ogystal ag ynddo'i hun

Fe gyfaddefodd Dr Metcalfe yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn y tribiwnlys.

Dywedodd ei fod wedi camfarnu yn sgil straen ymchwiliad y GMC, a'i fod yn benderfynol o ddysgu o'i gamgymeriadau o ran y presgripsiwn.

Mewn datganiad dywedodd: "Rwy'n deall nawr bod yr hyn a wnes i nid yn unig wedi torri'r ymddiriedaeth ynof fel meddyg ond wedi tanseilio ymddiriedaeth yn y proffesiwn meddygol cyfan."

Fe gafodd mwyafrif y tribiwnlys ei gynnal tu ôl i ddrysau caeëdig, ond mae cofnod ysgrifenedig wedi cael ei gyhoeddi erbyn hyn.

Dywed y cadeirydd, Claire Lindley: "Roedd camymddygiad ac euogfarn Dr Metcalfe yn ddifrifol.

"Roedd y tribiwnlys yn sicr bod yr ymddygiad yma, yn enwedig yr anonestrwydd, yn cael ei ystyried yn resynus gan gyd-feddygon ac yn tanseilio ffydd y cyhoedd yn y proffesiwn.

"Mae gwaharddiad o bum mis yn [anfon] neges glir i'r proffesiwn bod camymddygiad ac euogfarn o'r natur yma yn annerbyniol."

Pynciau cysylltiedig