Chappell Roan a'r Eisteddfod yn ysbrydoli pop cwiyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd Rosie Reed, sy'n perfformio dan yr enw Local Rainbow yn rhyddhau ei chân Gymraeg gyntaf ddydd Gwener.
Fe drodd y gantores sydd o'r Porth, y Rhondda, yn ôl at y Gymraeg ar ôl i'r Eisteddfod ymweld â Phontypridd y llynedd. Cyn hynny, dim ond yng nghorau'r ysgol yr oedd cerddoriaeth a'r Gymraeg wedi gorgyffwrdd iddi.
Ar faes yr Eisteddfod y gwelodd Rosie yr hysbysebion ar gyfer Y Llais ar S4C, ac ar ôl gweld nifer o artistiaid yn canu'n Gymraeg yn ystod yr wythnos fe benderfynodd drio'i lwc yn y gystadleuaeth.
"Roedd [mynd ar Y Llais] yn anhygoel. Roedd e'n step mawr cyntaf i fi fynd ar y teledu a canu'n Gymraeg."
Fe ganodd y gân Good Luck, Babe gan Chappell Roan a oedd wedi'i chyfieithu ar gyfer y rhaglen. Mae Chappell Roan wedi dod yn eicon cwiyr ym myd cerddoriaeth brif-ffrwd yn sydyn iawn.
"'Nes i 'neud Good Luck, Babe oherwydd dwi'n queer hefyd, so mae'n rhywbeth sy'n bwysig i fi, a dwi'n jyst caru Chappell Roan – mae hi mor cŵl.
"Do'n i ddim wedi mynd trwy [ar y Llais], ond roedd pobol ar TikTok yn caru [y perfformiad] – a mae e wedi cael fel 70k views nawr, sydd yn anghygoel!
"Mae'n rili cŵl o'n i'n gallu 'neud hwnna a rhoi platform i bobl sydd yn queer."

Gyda help y cynhyrchydd Popeth, sef Ynyr Roberts, mae Rosie nawr yn rhyddhau ei chaneuon ei hun sy'n ymdrin â iechyd meddwl, y profiad niwroamrywiol yn ogystal â'r profiad cwiyr.
"Mae'n bwysig iawn i fi siarad am bethe fel iechyd meddwl, a bod ar y sbectrwm mewn caneuon. Especially mewn Cymraeg oherwydd mae'n rhywbeth mae pobol ddim yn 'neud.
"Mae wedi ysbrydoli fi i weld pobol fel Chappell Roan yn y spotlight yn canu am fod yn queer. Wedyn wnes i ysgrifennu cân Saesneg [o'r enw] Love Your Ex – cân sydd am gael crush ar ferched.
"Roedd hwnna'n rili cŵl i stepio mewn i rywbeth sydd â tipyn bach o stigma o gwmpas e.
"Hoffwn i gyfansoddi e mewn i Gymraeg efallai, yn y future. Mae hwnna'n rhywbeth rydw i'n edrych ar."

Ond am nawr, mae'n edrych ymlaen i ryddhau Celwydd/Rumours gyda Popeth.
Yn ôl Rosie, mae Celwydd fel stori Sindarela, ond mewn rêf.
"Mae pethe fel ffantasi, a cael stori i'r gân yn rili pwysig i fi oherwydd dwi'n hoffi 'neud lluniau sydd yn mynd gyda'r gân.
"Pob tro dwi'n cael cân sydd yn dod allan dwi'n neud fel aesthetic wahanol."
"Dwi wedi 'nabod Ynyr ers pan oedd fi'n fach iawn. Oedden ni wedi dechrau cael sgyrsiau mewn Cymraeg am gerddoriaeth pop."

Estheteg amrywiol Local Rainbow
Yn sgil hyn, eglurodd Rosie, fe gynigiodd ei bod hi'n cyfieithu ei chân Rumours a'u bod nhw'n ei haddasu'n gân bop Gymraeg. Fe gynhyrchodd Ynyr y trac sydd yn ôl Rosie yn "fwy pop, a drum and bass" na'i sain arferol, ac fe aethon nhw i stiwdio ei thad (y cynhyrchydd Rob Reed) yn y Rhondda i'w recordio.
"Wnes i weld Ynyr yn gwneud pop, ond mewn Cymraeg, ac o'n i'n fel mae hyn yn berffaith. Mae jyst fel dream come true i weithio gyda rhywun arall sydd yn gyffrous am [gerddoriaeth bop] hefyd, so ma' fe'n rili dda."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Mawrth