'Ailgysylltu' gyda hunaniaeth Gymreig drwy ganeuon gwerin

Mari MathiasFfynhonnell y llun, Mari Mathias
  • Cyhoeddwyd

Mae enillydd Brwydr y Bandiau 2019 wedi mynd ati i ddatblygu a rhyddhau "cerddoriaeth gwerin gyfoes" fel ffordd o ymgysylltu gyda hanes Cymreig, a'i basio ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.

Fe aeth Mari Mathias o Geredigion ati i ymchwilio fwy i ganeuon gwerin Cymreig ar ôl darganfod tapiau casét ei hen thad-cu yn canu caneuon traddodiadol ac adrodd hen straeon lleol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi treulio amser yn India mewn sawl gŵyl werin, wedi perfformio yng nghyngerdd Nadolig Al Lewis, ac wedi recordio albwm newydd er mwyn ceisio cyflwyno caneuon gwerin i gynulleidfa newydd.

Daeth Mari o hyd i dapiau casét ei hen-dad-cuFfynhonnell y llun, Mari Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mari o hyd i dapiau casét ei hen-dad-cu

Mae Mari, 24, yn disgrifio ei cherddoriaeth fel "gwerin gyfoes", neu caneuon gwerin gyda "bach o dwist".

"Ma' gen i electrig gitâr a ffliwt, dryms a bâs yn fyw, felly ma' 'na elfen gyfoes iddo fe sydd yn ddiddorol, gobeithio!" meddai.

Dechreuodd ei thaith gerddorol tra'n astudio, ysgrifennu a chynhyrchu cerddoriaeth yng Nghaerdydd, ond o'i chartref yng Ngheredigion daeth ei hysbrydoliaeth fwyaf.

Wedi dod ar draws tapiau casét ei hen thad-cu, defnyddiodd Mari archif Sain Ffagan ac Amgueddfa Aberystwyth er mwyn darganfod mwy am gerddoriaeth gwerin Cymreig.

"Mae lot o'r caneuon dwi'n 'neud yn cymryd ysbrydoliaeth o'r archif, ond hefyd yn rhywbeth sydd wedi ei basio ymlaen i fi trwy'r teulu.

"Dwi'n meddwl fod y caneuon yma'n denu ata i mewn ffordd... mae llawer o'r caneuon traddodiadol yn cysylltu gyda'r tirlun a sut mae cymunedau lleol yn cysylltu â'r wlad. Mae 'na deimlad a naws cryf i'r caneuon yma sy'n bwysig iawn i bobl Cymru i gael pasio'r caneuon yma 'mlaen i'r genhedlaeth nesaf," meddai.

Perfformiodd Mari mewn dwy ŵyl werin yn India - 'Centre Stage' yn Delhi, a 'Hornbill' yn NagalandFfynhonnell y llun, Mari Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Mari mewn dwy ŵyl werin yn India - 'Centre Stage' yn Delhi, a 'Hornbill' yn Nagaland

Yn ddiweddar, aeth daith gerddorol Mari â hi mor bell ag India lle fuodd hi'n perfformio mewn dwy ŵyl werin wahanol - Centre Stage yn Delhi, a Hornbill yn Nagaland.

"Oedd e'n brofiad anhygoel cael canu yn yr iaith Gymraeg i bobl sydd heb glywed am Gymru o'r blaen, cael cydweithio hefyd gydag artistiaid allan yn Nagaland, a chael cysylltu gyda'r hunaniaeth yma o iaith, traddodiad, a hanes y straeon.

"Ma' lot o bethe oedden ni'n siarad amdano oeddwn i'n cysylltu gyda'n gryf, so oedd hwnna'n brofiad bythgofiadwy," meddai.

Mari'n perfformio ar lwyfanFfynhonnell y llun, Ceirios_photo

Ac mae'r daith yn parhau wrth i Mari baratoi i ryddhau ei halbwm newydd yn ddiweddarach eleni.

"Dwi wedi recordio albwm newydd sbon mewn stiwdio yng ngogledd Sir Benfro, sef Stiwdio Owz, a dwi'n browd iawn o'r albwm yma," meddai.

"Dwi'n gyffrous iawn i gael rhannu'r prosiect yma gyda chi gyd!"

Disgrifiad,

Mari Mathias