Cofio 40 mlynedd ers ffrae byncer niwclear Caerfyrddin

Swyddog diogelwch yn cario protestiwr ar safle adeiladu'r byncer ym 1985
- Cyhoeddwyd
40 mlynedd ers i brotestio ddechrau yn erbyn cynlluniau i godi byncer niwclear yng Nghaerfyrddin, mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod nhw yn falch o'u safiad yn erbyn y datblygiad.
Roedd hen Gyngor Dosbarth Caerfyrddin wedi penderfynu adeiladu'r byncer dan faes parcio ei swyddfeydd, gyda chymhorthdal o 75% ar gael gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher i dalu am y costau.
Ond fe ddechreuodd ymgyrch chwerw yn erbyn y cynllun mis Medi 1985 gan fudiad CND Cymru a phrotestwyr heddwch.
Fe gafwyd gwrthdaro ffyrnig ar y safle, a'r gred yw bod yr adeilad wedi costio hyd at £400,0000 i'w adeiladu yn y pendraw.
Clip o'r archif: Adroddiad newyddion BBC Cymru ar y protestiadau yn 1985
Roedd y gwaith i adeiladu'r byncer yn digwydd ar adeg pan roedd yna bryder gwirioneddol am ryfel niwclear rhwng gwledydd y gorllewin a Rwsia.
Erbyn hyn, dyw hi ddim yn ddiogel i fynd i'r hen loches niwclear oherwydd bod dŵr wedi ymgasglu ynddi, ac mae ansawdd yr aer yn wael iawn yno.

Roedd y cyn-aelod cynulliad, y Parchedig Rhodri Glyn Thomas, yn weinidog yn ardal Sanclêr yn ystod helynt y byncer
Roedd y cyn-aelod cynulliad, y Parchedig Rhodri Glyn Thomas, yn weinidog annibynnol yn ardal Sanclêr ac yn perthyn i fudiad heddwch CND Cymru ar y pryd, pan ddaeth i wybod am y cynllun i greu byncer.
"Roedd yna ŵr o'r enw Tony Simpson, oedd yn byw ym Mhen-y-bont, ac roedd e wedi bod yn dilyn hanes y byncers yma oedd wedi cael eu hadeiladu yn Lloegr, ac un oedd wedi cael ei adeiladu ym Mhen-y-bont, ac fe wnaeth e rybuddio ni bod yna fwriad i adeiladu un yng Nghaerfyrddin.
"Dyna pryd ddechreuodd y protestiadau.
"Roedd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin yn tybio y gallen nhw adeiladu parlwr i gadeirydd y cyngor dosbarth ar ben y byncer, oedd yn cael ei leoli yn y maes parcio."

Ymgyrchwyr heddwch yn dringo mewn i safle'r byncer yng Nghaerfyrddin
Pan ddaeth y cynllun i sylw'r cyhoedd, fe feddiannwyd y safle gan ymgyrchwyr heddwch.
Fe godwyd ffens ddur 12 troedfedd o uchder o amgylch y safle, ac fe gyflogwyd cwmni diogelwch gan y cyngor dosbarth i geisio cadw'r ymgyrchwyr allan.
Fe orymdeithiodd rhyw 4,000 o bobl trwy Gaerfyrddin fel rhan o'r ymgyrch yn erbyn y byncer.

Sian ap Gwynfor yn siarad gyda'r BBC ym 1985
Un o'r ymgyrchwyr wnaeth feddiannu'r safle oedd Sian ap Gwynfor - mam ifanc yn ei hugeiniau ar y pryd.
Dywedodd bod creu'r byncer wedi ysgogi iddi weithredu, ac fe fuodd yn cysgu ar y safle droeon dros gyfnod o rai misoedd.
"Roedd yna daflenni yn mynd allan o'r enw Protect and Survive - taflenni i'r cyhoedd," meddai.
"O'dd e'n llawn disgrifiadau manwl i'r cyhoedd, os byddai'n dod yn rhyfel niwclear, yna mi fyddai modd gwarchod eich hunain.
Lleisiau Cymru: Y Brotest
40 mlynedd wedi'r brotest mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?
"Roedd e'n chwerthinllyd mewn ffordd, achos o' nhw'n cyfeirio ar y taflenni i chi fynd i'r cwtsh dan stâr!
"O'n i'n meddwl, ydyn ni fel cyhoedd yn ymwybodol beth sydd yn digwydd mewn rhyfel niwclear, a chael gwybod efallai bod y twll yma yn y ddaear yn mynd i fod yn fodd i warchod pobl y dref a phobl Sir Gaerfyrddin?
"Doeddwn i ddim eisiau i fy mhlant gael eu magu mewn awyrgylch ble roedd y math yma o beth yn dderbyniol."

Fe gollodd un o ffrindiau Sian ap Gwynfor ei bys bach mewn un brotest ar y safle
Fe drodd un brotest ar y safle yn dreisgar, pan gollodd ymgyrchydd ifanc - Dr Sue Pitman - ei bys bach.
Mae Sian ap Gwynfor yn cofio bod "miloedd o bobl" yng Nghaerfyrddin ar y diwrnod hwnnw.
"Roedd hi'n ddiwrnod glawog a diflas. O' ni gyd yn y cefn.
"Dyma Sue yn troi ata i a dweud bod hi'n meddwl bod rhywbeth yn digwydd tu fewn y safle.
"Fe aeth hi ar fy ysgwyddau i ac ymestyn ei breichiau lan i dynnu ei hun lan i edrych mewn.
"Mewn ychydig eiliadau, dyma ruthr mawr a rhywrai yn dod a'i thynnu hi lawr gyda nerth difrifol.
"Fe ddisgynnodd hi, ond wrth wneud hynny fe gollodd ei bys. Yr hyn dwi'n cofio yw pobl, ffrindiau yn chwilio am y bys.
"Fe ffeindiwyd y bys, ond yn rhy hwyr."
Cafwyd swyddog diogelwch yn ddieuog o'i hanafu.

Cyn-ohebydd BBC Cymru, Alun Lenny, ger y fynedfa i'r byncer niwclear
Yn gwylio'r gwrthdaro dros gyfnod o fisoedd oedd cyn-ohebydd BBC Cymru, Alun Lenny, sydd erbyn hyn yn gynghorydd ac yn aelod o gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae gwesty'r Llwyn Iorwg yn edrych lawr dros y byncer, a bues i a dyn camera yn treulio sawl noson yno yn cadw gwylnos," meddai.
"Yn y bore, o'r gwesty, ro'n ni yn gweld y protestwyr yn dod mewn yn y bore bach ac yn meddiannu'r safle.
"Wedyn, fe gododd y cyngor ffens bigog o'i gwmpas, ond roedd y protestwyr yn dal i ddod dros y ffens. Fe aeth hi'n eithaf chwerw."

Y fynedfa i'r byncer niwclear ym maes parcio'r cyngor yng Nghaerfyrddin heddiw
Erbyn hyn, mae'r maes parcio a'r byncer yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Yn ôl Alun Lenny, roedd y gwariant gan yr hen gyngor dosbarth yn "wastraff enfawr o arian".
"Y ddadl bryd hynny oedd mai lawr fan hyn, yn y byncer, fyddai'r ganolfan i gydlynu'r gwasanaethau brys drwy orllewin Cymru os byddai yna ryfel niwclear.
"Mewn gwirionedd, os byddai bomiau niwclear yn disgyn ar orllewin Cymru, byddai fawr o bwrpas i chi fod lawr yn y twll yn y ddaear ym maes parcio'r cyngor dosbarth."
'Y perygl yn dal i fodoli'
Er i'r byncer gael ei gwblhau yn y pendraw, mae Rhodri Glyn Thomas yn mynnu bod yr ymgyrch wedi llwyddo.
"Mae'n symbol pwysig o'r ffaith bod llywodraethau yn gallu cynllunio dulliau o ymosod gan ddefnyddio arfau niwclear, ond dyw nhw ddim yn gallu amddiffyn y boblogaeth rhag ymosodiad niwclear.
"Mae'r perygl yn dal i fodoli ac yn fwy gwir heddiw, hwyrach, nag oedd e bryd hynny."

Mae Rhodri Glyn Thomas yn mynnu bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiant
Yn ôl y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, oedd yn rhan o'r ymgyrch, doedd yna ddim ymgais i godi bynceri eraill yn dilyn ymgyrch Caerfyrddin.
"Fe gethon nhw hawl i godi'r byncer, ond dyw e ddim wedi cael ei ddefnyddio wedi 'ny," meddai.
"Mae'r byncer yna ond yn gwbl ddiwerth. Llwyddwyd i rwystro bynceri eraill rhag cael eu codi.
"Oedd, roedd yn llwyddiant. Fe rwystrwyd bynceri eraill rhag cael eu codi."

Roedd y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor yn un o nifer o weinidogion lleol wnaeth wrthwynebu adeiladu'r byncer yng Nghaerfyrddin
Yn ôl Sian ap Gwynfor, yr elfen bwysicaf am yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth am yr hyn roedd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin am ei wneud.
"Dwi ddim yn meddwl gallen ni edrych ar unrhyw ymgyrch fel hon fel methiant.
"Yn un peth, mae'r ffaith bod ni wedi dod â'r peth i sylw pobl gyffredin y dref a'r sir, fod pethau fel hyn yn digwydd.
"Mae'n ddyletswydd i ddweud beth sydd yn digwydd yn ein henw ni."

Ymgyrchwyr heddwch ar safle adeiladu'r byncer ym 1985
40 mlynedd wedi'r helynt, mae gwaharddeb Uchel Lys yn parhau mewn grym sydd yn gwahardd Sian ap Gwynfor, Guto Prys ap Gwynfor, Rhodri Glyn Thomas ac ymgyrchwyr eraill rhag mynd i faes parcio'r cyngor sir, ble adeiladwyd byncer dadleuol Caerfyrddin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.