Pam fod dyn mawr pinc ar gae ysgol yn Rhuthun?
- Cyhoeddwyd
Mae dyn pinc enfawr wedi ymddangos ar gae ysgol yn Sir Ddinbych.
Mae'r gwaith celf gan yr artist Yue Minjun o China yn un o'r atyniadau mwyaf trawiadol yng Ngŵyl Gelf Ryngwladol gyntaf y sir.
Mae'r darn o gelf yn Rhuthun yn dangos yr artist ei hun, yn plygu dros bêl fawr wen gan wenu.
Ond er bod rhai o'r ardal yn hoff ohono, mae nifer sydd ddim mor gefnogol o'r gwaith celf.
"Mae ganddo [Yue Minjun] ei wyneb yn ei holl weithiau, dyna ei thema," meddai pennaeth newydd ysgol breifat Ruthin School, Frances King.
"Yr hyn mae'n gwneud yw cael chi i stopio, i feddwl, i chwerthin, i gwestiynu, ond hefyd i gamu allan o'ch hun ac i drio deall beth ydych chi'n ei wneud ar y foment honno pan rydych chi'n gweld y darn o gelf."
Dywedodd Ms King fod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel", gyda phobl yn stopio, chwerthin, ac ambell un "ychydig yn gynddeiriog".
Ond mae hefyd o'r farn fod y gwaith celf wedi gwasanaethu'r ŵyl newydd yn dda.
"Yr holl bwynt... oedd mynd â chelf y tu allan i'r galeri, i lefydd cyfarwydd ag i gael pobl i ymwneud â'r ardal, y byd o'ch cwmpas, a'r darn o gelf," meddai.
Er na fydd y darn o gelf yn aros yno'n barhaol, mae nifer ar y llaw arall yn anhapus gyda'i bresenoldeb.
Roedd Sara Turner-Roberts ymysg y rhai nad oedd wedi'u plesio gan y gwaith celf, gan ddweud ei fod yn "anaddas".
"Mae tu allan i ysgol felly dwi ddim yn meddwl ei fod yn addas. Mae'n tynnu sylw gyrwyr sy'n mynd heibio... dwi methu gweld sut ei fod yn gelf," meddai.
Ychwanegodd fod "Ruthun yn gymuned fechan. Dyw e ddim yn edrych yn dda".
Roedd Emily Pierce yn cytuno nad yw'r gwaith celf yn addas.
"Yn bersonol dwi ddim yn ei hoffi", meddai, gan ychwanegu nad yw'n cydfynd â thref hanesyddol Rhuthun.
'Rhan o fywyd yr ysgol'
Mae disgwyl i'r dyn mawr pinc ddod lawr ddydd Sul pan fydd yr ŵyl gelf yn dod i ben, ond ni fydd yn dychwelyd i China.
Bydd yn cael ei gadw yn Ruthin School, ble y gallai ailymddangos yn y dyfodol.
Dywedodd Ms King fod y disgyblion yn "hoff iawn" o'r gwaith celf a'i fod bellach yn "rhan o fywyd yr ysgol".