Gweithiwr wedi marw ar safle ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr wedi cael ei ladd yn dilyn digwyddiad ar safle ailgylchu, meddai'r heddlu.
Cafodd criwiau brys eu galw i Atlantic Recycling yn Nhredelerch, Caerdydd, brynhawn Llun.
Dywedodd rheolwr y safle, Grwp Amgylcheddol Dauson, bod y farwolaeth wedi digwydd tra roedd "contractwr yn gwneud gwaith cynnal a chadw" ar y safle.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod y dyn wedi marw a bod ei deulu wedi cael gwybod.
Ychwanegodd y llu bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd wedi cael gwybod a bod ymchwiliad yn parhau.
"Rydym yn parhau i gefnogi'r gwasanaethau brys a'r rheoleiddwyr gyda'u hymchwiliadau ar hyn o bryd," meddai cwmni Dauson mewn datganiad.