Dyn, 19, yn euog o lofruddio tad i saith ar ôl ei drywanu

Colin RichardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi'i ganfod yn euog o lofruddio tad i saith yng Nghaerdydd.

Cafodd Colin Richards, 48, ei ganfod yn anymwybodol ym mis Ebrill y llynedd gyda chlwyf dwfn yn ei goes.

Ar ôl achos llys a barodd chwe wythnos yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Corey Gauci ei ganfod yn euog o lofruddiaeth ac achosi anhrefn dreisgar.

Fe wnaeth y rheithgor hefyd ganfod James O'Driscoll, 27, yn euog o achosi anhrefn dreisgar ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae'r rheithgor hefyd wedi canfod fod Christian Morgan, 36 o Heol y Berllan, Caerau yn euog o fod â chyllell yn ei feddiant.

Cafodd Noreen O'Driscoll, 29 o Heol Parker, Trelái a Soraya Somersall, 55, o Sgwâr Loudoun, Caerdydd, eu canfod yn euog o gynorthwyo troseddwr.

Yn ystod yr achos, fe wnaeth y rheithgor glywed fod yr achos ynghylch ffrae rhwng pump o'r diffynyddion ac un arall, Christian Morgan, a oedd yn ffrind i Colin Richards.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, David Elias KC, wrth y llys mai Noreen O'Driscoll oedd cyn-bartner Christian Morgan, a'i fod ynghyd â James O'Driscoll, Corey Gauci, Rebecca Ross a Soraya Somersall, wedi ymgynnull ger lle'r oedd Mr Morgan yn byw gyda "chynllun i'w niweidio".

Clywodd y llys fod Corey Gauci a James O'Driscoll yn cario cyllyll.

Wrth gyflwyno tystiolaeth, dywedodd Gauci ei fod wedi trywanu Mr Richards "er mwyn gwarchod ei hun" am ei fod yn meddwl ei fod yn mynd i gael ei redeg drosodd, ond nad oedd wedi bwriadu ymosod arno.

Fe wnaeth y Barnwr Mr Ustus Griffiths gadw'r holl ddiffynyddion yn y ddalfa tra bod y rheithgor yn parhau â'r trafodaethau brynhawn Mercher.

Wrth siarad ar ôl marwolaeth Mr Richards, dywedodd ei deulu ei fod yn "dad, taid, brawd, ewythr a chefnder a oedd yn cael ei garu'n fawr ac yn ddyn teulu".