Gwelliannau i adran frys Glan Clwyd er bod 'heriau o hyd'
- Cyhoeddwyd
Mae "gwelliannau amlwg" wedi bod yn adran frys Ysbyty Glan Clwyd ers i bryderon gael eu nodi yn 2022, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Ym mis Mai 2022 cafodd yr adran frys, sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei dynodi'n wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol.
Cafodd arolygiad dilynol dirybudd ei gynnal yn yr adran frys eleni oedd yn dangos "gwelliannau amlwg" yn ôl AGIC, ond yn ôl yr arolygiaeth, mae heriau yn parhau o hyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd fod yr adroddiad yn dangos bod "gwahaniaeth pendant a phositif yn cael ei wneud.”
Beth oedd y feirniadaeth yn 2022?
Yn dilyn tystiolaeth a gasglwyd gan AGIC yn Ionawr 2022, cafodd adran frys yr ysbyty ym Modelwyddan ei dynodi'n wasanaeth oedd angen ei wella'n sylweddol ym mis Mai y flwyddyn honno.
Roedd AGIC yn nodi bod y drefn o gadw golwg ar gleifion yn y mannau aros yn "annigonol" ac yn golygu bod "cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl o niwed y gellid ei osgoi".
Doedd staff ddim wastad yn gwybod lle roedd rhai cleifion, yn cynnwys plant a chleifion iechyd meddwl, neu bobl oedd yn agored i niwed.
Roedd cleifion hefyd yn gadael heb i staff wybod.
Roedd yr adroddiad yn nodi oedi cyn trin cleifion "gan gynnwys un achos lle dylai claf fod wedi cael ei weld o fewn 10 munud a'i fod wedi aros dros chwe awr i weld meddyg". Ychwanegodd: "Aeth y claf hwn yn fwy sâl wedyn."
Jo Whitehead oedd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2022, ac fe ymddiheurodd hi ar y pryd gan ddweud "mi fyddwn yn gwneud yn well".
Erbyn Tachwedd 2022, dim ond "ychydig o welliant" oedd wedi bod pan gafodd arolygiad dirybudd arall ei gynnal.
Yn ystod yr arolygiad diweddaraf yn Ebrill a Mai 2024, roedd "gwelliannau amlwg" i'w gweld mewn perthynas â'r pryderon sylweddol a nodwyd yn 2022, yn ôl AGIC.
Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr ddiwylliant gwell, cynnydd mewn lefelau staffio ac arweinyddiaeth gryfach.
Ychwanegodd AGIC: "Gwelsom fod y trefniadau ar gyfer goruchwylio ystafell aros yr uned wedi gwella a bod argyfyngau cleifion yn cael eu huwchgyfeirio a'u rheoli'n dda.
"Ar y cyfan, roedd yr adran yn lân ac yn daclus, gyda mesurau atal a rheoli heintiau cadarn ar waith; ac roedd risgiau cyffredinol i iechyd a diogelwch yn cael eu hasesu."
Yn ôl yr arolygwyr, roedd y staff yn sicrhau bod y cleifion yn gallu mynegi eu barn cymaint â phosib ynglŷn â'u cynlluniau triniaeth a bod cleifion yn gallu rhoi adborth am y gwasanaeth, ac roedd system dda ar waith i gofnodi a rheoli cwynion.
O ganlyniad i'r gwelliannau hyn, mae AGIC wedi penderfynu diddymu'r statws "gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol" y derbyniodd yr adran yn 2022.
Er y gwelliannau, pwysleisiodd AGIC fod heriau yn parhau yn yr adran frys.
Dywedodd: "Mae'r gwasanaeth yn parhau i weithredu mewn amodau heriol iawn.
"Ymhlith y pryderon roedd amseroedd aros gormodol, prosesau annigonol ar gyfer materion yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau, a gwiriadau annigonol o gyfarpar achub bywyd."
Mae AGIC hefyd wedi pwysleisio eu pryder bod y pwysau a'r galw ar yr adran yn arwain at fwy o risg i'r cleifion.
'Heriau sylweddol'
Yn ystod yr arolygiad, nododd AGIC fod tua 50 o gleifion bob dydd oedd yn cael eu hystyried yn ddigon da i gael eu rhyddhau, a bod pob un o welyau'r uned yn llawn.
Nododd fod oedi cyn eu rhyddhau am wahanol resymau, yn cynnwys aros am ofal pellach, aros i becyn gofal gael ei roi ar waith neu aros am leoliad mewn cyfleuster gofal arall.
Mae'r adroddiad yn nodi fod cleifion yn aros tua phedair awr am driniaeth yn yr adran, ac roedd ychydig yn llai na chwarter y cleifion yn aros dros 12 awr cyn cael eu gweld.
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
Dywedodd Alun Jones, prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: "Mae'r pwysau a'r galw ar wasanaethau gofal iechyd yn parhau i greu heriau sylweddol i'r GIG.
"Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom fod y staff yn gweithio'n eithriadol o galed mewn amodau heriol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion.
"Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o'r adran, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach o hyd.
"Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddeall yr heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu yn glir, ac y bydd yn cefnogi'r camau sydd angen eu cymryd i wella."
'Gwahaniaeth pendant a phositif'
Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei bod yn diolch i staff yr adran "am eu hymroddiad i welliant parhaus, a hynny gan weithio o dan bwysau cyson".
"Er ei bod yn amlwg bod materion i fynd i'r afael â nhw, mae pob un ohonom yn ymrwymedig i ddarparu'r gofal a'r profiad gorau posibl.
"Mae ein Hadrannau Achosion Brys bob amser yn hynod brysur ac rydym yn ystyried ffyrdd o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol er mwyn gwella amseroedd aros a phrofiad pobl o ran gwasanaethau gofal iechyd.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod gwahaniaeth pendant a phositif yn cael ei wneud, gan nodi'r gwelliannau pellach yr ydym yn hollol ymrwymedig i'w rhoi ar waith.”