Gwaith ffordd £2bn yn dirwyn i ben wedi prosiect 23 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gwaith o ledaenu ffordd yr A465 ddod i ben ganol eleni wedi 23 mlynedd.
Cyfanswm cost y cynllun ffordd 28 milltir yw £2 biliwn, a hwn fydd y gwaith peirianyddol mwyaf o'i fath ers datganoli ac ymhlith prosiectau is-adeiledd mwyaf y Deyrnas Unedig.
Mae'r cynllun wedi creu ffordd ddeuol o'r Fenni i Hirwaun gan wella'r cysylltiad ffordd rhwng canolbarth Lloegr a de Cymru.
Mae model ariannu'r gwaith yn golygu y bydd yna gost o fwy na £40m y flwyddyn am 30 mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod economi'r ardal eisoes wedi elwa.
Peris Jones yw Pennaeth Cyflawni Prosiectau y llywodraeth, ac mae'n dweud bod rhan ola'r cynllun rhwng Dowlais a Hirwaun yn enghraifft o werth y gwaith.
"Da ni 'di gwario tua £200m ar gwmnïoedd lleol, wedi creu 2,000 o swyddi newydd fel rhan o'r cynllun a thua 1,000 o'r rhain 'di cael eu creu'n lleol," meddai.
"Hefyd, 'da ni wedi creu 160 o brentisiaid, ac eto, hanner rheiny yn lleol felly maen nhw wedi dysgu lot a bydd y sgiliau yna yn gallu cael eu trosglwyddo i swyddi yn y dyfodol."
Un o'r cwmnïau sydd wedi elwa o fod yn rhan o'r gwaith dros nifer o flynyddoedd yw cwmni peirianyddol GT Jones o'r Fenni.
Dywedodd Carys Price, sy'n gweithio i'r cwmni: "Achos bod y gwaith wedi para mor hir, ni wedi gallu tyfu bob blwyddyn.
"Ni wedi datblygu o ffensio a thorri coed i wneud mwy o waith civil engineering ac adeiladu.
"Tri neu bedwar oedd yn gweithio i ni ar y dechrau ond erbyn hyn mae tua 100 yn gweithio gyda ni.
"Ni wedi gweithio ar wahanol rannau o'r ffordd dros y blynyddoedd ac mae trosiant y cwmni wedi mynd o tua £3m y flwyddyn i dros £12m."
Ond tra bod rhai cwmnïau wedi elwa, mae'r gwaith wedi dal eraill yn ôl - yn llythrennol yn achos Evan Shepard a'i gwmni tacsis.
Mae'r ffordd newydd yn rhedeg y tu ôl i'w fusnes ar Stad Ddiwydiannol Pant ar gyrion Merthyr Tudful.
"Weithiau byddwch chi'n troi heb feddwl ar yr A465 ac mae popeth ar stop, byddwch chi yna am 45 munud," meddai Mr Shepard.
"Weithiau ni'n cael problemau gyda'r bysys mawr, dy'n nhw ddim yn gallu cyrraedd nôl mewn pryd felly mae'r gyrwyr yn gorfod tynnu fewn ar ochr y ffordd i gael hoe. Ni'n gorfod derbyn llai o waith.
"Ni'n cael lot o waith casglu gweithwyr o'r lladd-dy lleol, chi'n sôn am dri chwarter awr i wneud dwy filltir. Chi'n gorfod mynd trwy'r traffig i gyrraedd 'Kepac' ac yna nôl trwy'r traffig i fynd lawr i'r dre.
"Ni methu chargo pobl y pris llawn neu bydd neb yn bwcio ni felly mae'r gyrwyr yn colli mas ond gobeithio byddwn ni'n elwa pan ddaw'r gwaith i ben."
Beth yw'r gost?
Mae'r gwaith wedi ei rannu i chwe darn, a'r gost mae'r llywodraeth wedi amcan ar gyfer adeiladu'r ffordd yn £1.3bn.
Roedd y ddwy ran gyntaf i'w cwblhau wedi costio £57m yr un, a'r gost i adeiladu'r ddwy olaf sy'n cael eu gorffen ar hyn o bryd yw £590m.
Ond mae'r ddwy ran olaf yn cael eu hariannu gan fath o fenthyca gan gwmni buddsoddi preifat.
Felly fe fydd yn rhaid i'r llywodraeth dalu amdanynt, am gynnal a chadw gan y cwmni preifat ac am ffioedd benthyca, am 30 mlynedd i ddod cyn iddynt ddod dan berchnogaeth gyhoeddus.
Mae hynny'n golygu y bydd gwir gost y ddwy ran olaf - 11 milltir - yn £1.4bn, sydd ei hun £250m yn uwch na'r amcangyfrif yn 2020.
Mae'r cynllun ariannu yn "wastraff" meddai Plaid Cymru, ond dywedodd y llywodraeth na fyddai'n bosib fel arall.
Er y costau a'r anghyfleustra i gwmnïau ac i deithwyr lleol mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd y gwaith anferth hwn yn talu ar ei ganfed maes o law.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru: "Y ddau beth mwyaf fedrwch chi ei wneud i greu cyfoeth, i wella cyfleoedd a gwella bywydau pobl yw buddsoddi mewn sgiliau ac isadeiledd a dyna'n union beth y'n ni'n neud.
"Dwi'n meddwl ymhen 50 mlynedd bydd arbenigwyr yn dweud mai'r peth pwysicaf y gwnaeth Llywodraeth Cymru i wella'r rhagolygon i bobl ardal Blaenau'r Cymoedd oedd adeiladu'r ffordd hon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023