'Gobeithio na welwn gynlluniau ffyrdd fel A465 eto'

  • Cyhoeddwyd
A465 Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymerodd ugain mlynedd i adeiladu ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd

Ni fydd cynlluniau mawr ar gyfer ffyrdd fel Blaenau'r Cymoedd yn cael eu hadeiladu eto - dyna obaith dirprwy weinidog newid hinsawdd Cymru.

Mae'r gwaith ar ffordd yr A465 - rhwng Castell-nedd a Sir Fynwy - wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd ac yn parhau. Mae'r gwaith yn golygu gwneud y ffordd yn un ddeuol mewn mannau a chodi pont newydd ger Merthyr Tudful.

Dywedodd Lee Waters fod y gwaith yn "achosi trafferth enfawr a difrod amgylcheddol".

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Mr Waters y byddai holl brosiectau mawr i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu canslo, a hynny oherwydd pryderon amgylcheddol.

Fe ddaeth y penderfyniad fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, yn dilyn adolygiad am flwyddyn oedd yn ystyried pa gynlluniau ddylai fynd yn eu blaenau.

Ni ddylai ffyrdd y dyfodol gynyddu allyriadau carbon, cynyddu nifer y ceir ar y ffyrdd, arwain at gyflymder uwch nag effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd.

Dywedodd Mr Waters wrth bodlediad Walecast y BBC na fyddai ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi pasio'r meini prawf.

Wrth ofyn iddo ai honno fydd y ffordd olaf i gael ei hadeiladu ar y fath raddfa, dywedodd: "O'r dyluniad yna? Ie. Dw i'n gobeithio. Oherwydd nid dyna'r ateb i'n problemau.

"Ac mae'n costio biliynau o bunnoedd ac achosi trafferth enfawr a difrod amgylcheddol ar hyd Blaenau'r Cymoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe gyfeiriodd Mr Waters at Gomisiwn Burns, sydd wedi ei sefydlu i ddod o hyd i opsiynau eraill yn lle cynlluniau sydd wedi'u dileu ar gyfer ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd.

"Un o'u cynigion yw troi prif ffordd bresennol a chael coridor bysiau, coridor teithio llesol a choridor ffordd ochr yn ochr.

"Felly ry'ch chi'n dal i adeiladu ffyrdd ond ry'ch chi'n adeiladu ffordd sydd wedi ei dylunio i wneud rhywbeth gwahanol.

"Mae'n cael ei dylunio i'w gwneud yn hawdd - os nad yn haws - i neidio ar fws.

"Felly pan fyddwch chi'n gwneud y penderfyniad o 'sut ydw i'n mynd i'r gwaith?' dy'ch chi ddim yn meddwl yn awtomatig bod yn rhaid neidio'n y car... dyna'r realiti sy'n rhaid i ni newid."

Yn gynharach yr wythnos hon fe ddywedodd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething fod ffordd yr A465 wedi "agor cyfleoedd am ddatblygiad economaidd sylweddol i gymunedau'r cymoedd.

"Ac ry'n ni wedi cydnabod yn ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad ein bod ni eisiau sicrhau y gall y datblygiad economaidd hwnna barhau i ddigwydd mewn gwahanol rannau o Gymru," ychwanegodd.