Pryder fod pobl hŷn Cymru yn cael eu 'gadael ar ôl'
Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, yn siarad ar raglen Dros Frecwast
- Cyhoeddwyd
Wrth i fwy o wasanaethau droi at ddefnyddio technoleg fodern, mae 'na bryder bod pobl hŷn Cymru yn cael eu "gadael ar ôl".
Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, Rhian Bowen-Davies, ei nod yw mynd i'r afael â'r heriau sy’n wynebu pobl hŷn yn eu bywydau bob dydd.
Fe ddaeth sylwadau’r comisiynydd wrth iddi amlinellu ei gweledigaeth ar ddechrau ei chyfnod yn y swydd.
Tra’n siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd mai rhoi llais iddyn nhw oedd ei blaenoriaeth.
“Yn ymarferol, i wrando ar beth sy’n bwysig i bobl ac wedyn i fynd â’r profiadau yna a bod yn llais annibynnol iddyn nhw, gyda’r cwmnïau, gyda’r llywodraeth, fel y gallan nhw ddeall pa effaith mae hyn yn cael ar fywyd o ddydd i ddydd.”
Fe fydd y comisiynydd yn ymweld â chymunedau ar draws Gwynedd a Phowys yn ystod yr wythnos hon.