Tân mawr wedi dinistrio to adeilad yng nghanol Caerdydd

Llun o'r awyr yn dangos y difrod i'r adeilad ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi yng Nghaerdydd yn dilyn tân mawr dros nos.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad mewn llety i bobl fregus yn ardal Glan yr Afon ychydig cyn hanner nos, nos Lun.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad, ond mae rhannau o'r to wedi cael difrod sylweddol.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys adael y lleoliad cyn 07:00 fore Mawrth.
Cafodd cymdogion eu cynghori i gau eu ffenestri a'u drysau oherwydd mwg, a bydd ymchwiliad yn cael ei lansio i ganfod achos y fflamau.

Dywedodd Lorraine Griffiths, cyfarwyddwr cynorthwyol Pobl - y sefydliad nid er elw sy'n gyfrifol am y llety - fod y difrod i'r adeilad yn "siomedig" ond mai'r peth pwysig oedd fod pawb yn ddiogel.
Yn ôl Nick Taylor, cyfarwyddwr cefnogaeth Pobl, roedd "pob un o'r 21 o breswylwyr yn Dyfrig House wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel, ac fe gafon nhw eu cludo i safle arall sy'n cael ei reoli gan Pobl".
Ychwanegodd fod pob un o'r bobl hynny wedi dod o hyd i lety newydd gyda chymorth gan yr awdurdod lleol.
Nododd hefyd nad oedd modd dweud pryd y byddai modd i bobl ddychwelyd i Dyfrig House ar hyn o bryd.