Carcharu cyn-esgob am droseddau rhyw yn erbyn plentyn

Anthony Pierce Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod Anthony Pierce wedi "manteisio ar oed" y dioddefwr

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-esgob wnaeth gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei garcharu.

Cafodd Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Clywodd y llys bod y troseddau'n dyddio o gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.

Daeth ei droseddau i'r amlwg yn 2023, pan basiodd yr Eglwys yng Nghymru wybodaeth am honiadau at yr heddlu.

Roedd Pierce, 84, wedi cyfaddef pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed.

Cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac un mis dan glo.

Bydd yn treulio hanner y ddedfryd yn y carchar a hanner ar drwydded.

Dywedodd y Barnwr Catherine Richards bod Pierce wedi "manteisio ar ei oed a'i ymddiriedaeth ynddoch".

Anthony PierceFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yn rhaid i Pierce gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol

Dywedodd yr erlynydd, Dean Pulling, fod Pierce wedi ceisio cusanu'r dioddefwr, a'i fod wedi ei gyffwrdd yn amhriodol droeon a chyffwrdd yn ei organau cenhedlu.

"Roedd y diffynnydd yn ymddwyn fel pe bai dim wedi digwydd," meddai Mr Pulling.

Dywedodd y dioddefwr ei fod yn teimlo "embaras" sylweddol am y profiadau a bod yn teimlo bod yn rhaid iddo "oddef y gamdriniaeth".

Roedd y dioddefwr dan deimlad wrth iddo ddarllen datganiad personol i'r llys.

Dywedodd ei fod yn teimlo fod mynd at yr heddlu wedi bod yn drobwynt yn ei fywyd.

"Dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny," meddai.

Anthony Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pierce yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008

Eglurodd ei fod wedi methu â ffurfio perthnasau personol a'i fod wedi teimlo embaras a chywilydd ei fod wedi gadael i'r gamdriniaeth ddigwydd.

Dywedodd ei fod wedi troi at alcohol er mwyn delio â'i emosiynau a'i fod wedi ceisio lladd ei hun nifer o weithiau dros y blynyddoedd.

Erbyn hyn dywedodd fod pethau yn gwella: "Rwy'n teimlo, o'r diwedd, fy mod i wedi cael fy rhyddhau o rywbeth sydd wedi cael gafael arnaf fi ar hyd y blynyddoedd."

Wrth iddo gael ei ddedfrydu, ni ddangosodd Pierce unrhyw emosiwn yn y doc.

"Roedd aelodau o'ch plwyf yn eich parchu ac yn ymddiried ynddoch chi," meddai'r barnwr, "roeddech chi'n anghymwys o'u parch a'u hymddiriedaeth."

Bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol.

'Pobl yn ymddiried ynddo'

Dywedodd Monique McKevitt o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd hwn yn achos o gamddefnydd dybryd o ymddiriedaeth gan y ficer.

"Roedd Anthony Pierce yn ddyn yr oedd pobl yn ymddiried ynddo i wasanaethu angladdau, priodasau a gweddïau.

"Roedd y dioddefwr, a oedd yn blentyn ar y pryd, yn destun ymosodiadau rhyw gan Pierce, ac mae'r trawma o'r hyn ddigwyddodd wedi bod gydag ef ers sawl blwyddyn.

"Mewn cyfweliad â'r heddlu, fe wnaeth Pierce wadu'r hyn ddigwyddodd mwy na 35 o flynyddoedd yn ôl - ond pan wynebodd dystiolaeth yr erlyniad yn ei erbyn, fe gyfaddefodd ei droseddau yn y llys."

'Adolygiad annibynnol ar waith'

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru fod Anthony Pierce wedi "cam-drin ei rôl, wedi achosi gwarth i'w eglwys, ac yn waeth na dim, wedi achosi trawma erchyll a pharhaol i'r dioddefwr".

"Mae pwyllgor diogelu Yr Eglwys yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r ffordd y mae'r sefydliad wedi delio â'r honiadau o 1993," meddai.

Maen nhw'n dweud bod yr adolygiad eisoes ar waith "ac y bydd yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd wedi gorffen".

"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o ddangos ei fod yn lle saff, ac y bydd pryderon unrhyw un sy'n penderfynu siarad yn cael ei gymryd o ddifrif."

Pynciau cysylltiedig