Teyrnged i fenyw â 'chalon aur' fu farw wedi gwrthdrawiad Y Barri

Jacquelline EllisFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jacquelline Ellis mewn gwrthdrawiad ffordd ym mis Hydref eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i farwolaeth menyw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ddiwedd mis Medi.

Cafodd Jacqueline Ellis ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad gyda Mercedes C220 du ar Ffordd y Mileniwm yn Y Barri ar 29 Medi.

Yn dilyn ei marwolaeth ar 10 Hydref, mae ei theulu wedi rhyddhau teyrnged yn dweud y bydd ei cholli yn "gadael bwlch na fyddwn yn gallu ei lenwi".

"Roedd gan Jacqueline galon aur, a byddai wedi gwneud unrhyw beth ar gyfer unrhyw un", meddai'r datganiad.

"Roedd Jacqueline yn fam, yn nain, ac yn hen-nain deyrngar.

"Bydd ein hatgofion o Jacqueline yn parhau am byth, ac ni fydd yr atgofion sydd gennym ni fel teulu yn cael eu hanghofio - gennym ni nac unrhyw un oedd yn ei hadnabod."

Mae swyddogion heddlu'n apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, gweld y car yn gyrru cyn y digwyddiad neu sydd â lluniau dashcam o'r cyfnod, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig